Hyd y gwela i nid oes deddfwriaeth yn penodi'r cyfieithiad (gan nad
oedd ar gael ym 1985). Wela i ddim o'i le ar "Beicwyr/Man Disgyn".
Efallai ei fod yn codi hwyl, ond dim ond gan ein bod ni wedi arfer
peidio chwerthin am ben y Saesneg ar arwyddion sy'n od ar y naw pan
fydd rhywun yn ei weld trwy lygad newydd.
Rhaid peidio creu'r argraff mai gorchymyn syd yma, gan mai dim ond
cynghorol yw'r arwydd yn ol deddf. Ac mae'r Canllaw swyddogol yn
dweud na ddyli ond ei ddefnyddio ar ddiwedd llwybr beidio sydd mewn
peryg o arwain beiciwr i fynd yn ei flaen i rhwyle nad yw becio'n
gyfreithlon. Nid mai dyna sut y'i defnyddir fel arfer.
|