Mae'n debyg fod yna gêm a elwir 'Pooh-sticks' ac wedi Gwglo dyma ganfod
mai "Winnie the Pooh" ddyfeisiodd y gêm yn llyfrau AA Milne.
Dwi wedi gweld llyfrau Cymraeg "Wini'r Pw" - ond mae "ffyn pw" yn
swnio'n fudur braidd. Rhyfedd bod "pooh-sticks" yn dderbyniol - mae'n
rhaid mai'r 'h' sy'n gwneud y gwahaniaeth hanfodol. Mae "poo-stick" yn
cyfleu syniad eitha gwahanol.
Dwi'n gwbod nad pnawn dydd Gwener ydi hi eto, ond unrhyw awgrymiadau? ;-)
Geraint
|