Sôn am ddiwydiant yn Nyffryn Maes-glas, Treffynnon.
Mae taflen Discover Flintshire yn galw'r Battery Works yn "Gweithfeydd Batri" ond mae gen i fy amheuon.
"Mae hanes ingol i'r Gweithfeydd Batri. Sefydlwyd yn 1776. Roedd yn cyflogi pobl leol i siapio llestri a phadelli. Gwnaed y cynnyrch drwy ddyrnu ('Batter') haenau o gopr a phres gyda morthwylion mawr."
Os nad oedd enw Cymraeg ar y lle, tybed a fyddai'n well ei alw'n "Gwaith Curo" neu "Melin Morthwylio" neu rywbeth felly?
Diolch
Siân
|