Os oes fersiwn cyfatebol o gwbl i'w gael yn y Gymraeg, yna mi wranta y byddai Meredydd Evans a Phyllis Kinney wedi crybwyll y geiriau Cymraeg - rywle neu'i gilydd ymhlith eu gwahanol gyhoeddiadau (gan mai yn y math hynny o gerddoriaeth yr oedd eu dileit a'u harbenigedd hwy ill dau); ond fyddai gen i ddim syniad ymhle i chwilio ymhellach am gyfryw gofnod o'r peth. Does gen i ddim cof o ganu rhigwm o'r fath yn Ysgol Gynradd Y Parc yn 1950au; o gofio bod yr ysgol honno yn gyfoethog iawn o draddodiadau Cymreig - yn enwedig o safbwynt y caneuon a genid a'r gemau a chwareuid gennym ni'r plant yn yr iard, yn ein hamser ni ein hunain. A fedra i ddim dod o hyd ychwaith i unrhyw gyfeiriad tebyg yn unrhyw un o'r amryw lyfrynnau rhigymau a hwiangerddi ac ati (o'r gorfennnol bid siwr!) sydd gen i ar fy silff lyfrau.
Eurwyn.
----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Garry Nicholas
Sent: 03 January 2016 23:44
To: [log in to unmask]
Subject: "Oranges and lemons"
Oes rhywun yn gwybod am bennill Cymraeg sy'n cyfateb i "Oranges and lemons"-neu a oes addasiad eisoes ar gael? I'w gynnwys mewn addasiad Cymraeg o ddrama.
Diolch am unrhyw gymorth.
Garry
|