Roedd bwletinau Radio Cymru yn osgoi defnyddio un gair penodol y diwrnod o'r blaen, gan geisio cyfleu'r syniad drwy nifer o eiriau eraill a chyfeirio at yr ymadrodd Saesneg e.e.
http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/34976336
Mae'r Ffrangeg, y Sbaeneg a'r Gatalaneg yn defnyddio ffurfiau tebyg i Sextortion neu Sexual Extortion o'r hyn wela i ar Wikipedia, ond mae ffurfiau ar y gair 'extortion' yn rhan o'r ieithoedd hynny, sy'n gwneud eu sefyllfa nhw'n wahanol i'r Gymraeg.
Cribddail / cribddeiliaeth / gordreth / gorelwa sydd yng Ngeiriadur yr Academi dan 'extortion', felly a fyddai'n well dweud 'cribddeiliaeth rywiol', 'gorelwa rhywiol' neu'n wir 'blacmel rhywiol' / 'blacmel o natur rywiol' nes bydd ymadrodd mwy slic wedi dod i'r amlwg?
Dim ond rhywbeth sydyn ydi'r uchod rhag ofn dy fod angen rhywbeth ar frys, Meinir.
Cofion gorau,
Huw
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Meinir Thomas
Sent: 10 Rhagfyr 2015 13:31
To: [log in to unmask]
Subject: Sextortion
Prynhawn da,
Oes unrhyw un wedi dod ar draws gair Cymraeg ar gyfer 'sextortion' o'r blaen?
Diolch ymlaen llaw am eich cymorth.
Cofion,
Meinir
|