Wedi gwrando'n ofalus a 'd' yn sicr yw'r sain i fi. Gwybod bod y gynghanedd yn caledi dwy g ond dw i ddim yn clywed c yn fanna chwaith. Ai clust pobl sy'n wahanol??
> On 2 Dec 2015, at 09:28, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:
>
> Dwi'n meddwl ei bod yn ddadlennol bod plant bach yn ysgrfennu "eisdedd, popdy" ac ati - sy'n awgrymu mai'r sain 'd' sy'n dod yn naturiol.
>
> Geraint
>
>> On 02/12/2015 00:07, Andy Shurey wrote:
>> Hoffwn i anghytuno â'r syniad mai 'd' yw'r sain rydyn ni'n glywed - mae caledu naturiol yn digwydd yma, a'r sain 't' rydyn ni'n ei glywed yn wirioneddol. Dyma'r eglurhad am y gynghanedd yn y frawddeg 'Y ddraid goch ddyry cychwyn" - mae'r ddwy sain 'g' yn caledu wrth ddod at ei gilydd yn naturiol. Os nad ydych yn meddwl felly, recordiwch eich hun yn ynganu 'popty' a 'llystad' a GWRANDEWCH yn astud ar y recordiad, a pheidio â chymryd yn ganiataol mai sain feddal rydych chi'n glywed. Diolch :)
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Iorwerth
>> Sent: 01 December 2015 22:59
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: Llys–
>>
>> Mae'n ymddangos i mi nad yw'r orgraff yn adlewyrchu'r sain erbyn hyn. Newydd ofyn i'r teulu a'r hyn dw i'n ei glywed yw plasdy, llysdad, popdy. Dim sain 't' o gwbl. Enghraifft o'r iaith yn newid?
>>
>>
>>
>>> On 1 Dec 2015, at 21:26, Mary Jones <[log in to unmask]> wrote:
>>>
>>> Mae'r arfer orgraffyddol wrth sgrifennu'r tair cytsain p,t,c yn gymhleth. E.e. pam 'st' ond 'sg' ac 'sb'. Mae Peter Wynn Thomas ar dudalen 755-6 yn Gramadeg y Gymraeg yn trafod y rhyfeddod 't' yn llawn iawn, e.e. pam 'popty' ond 'clochdy'? Mater o ddysgu pryd a ble, debyg iawn.
>>> Mary
>>>
>>> -----Original Message-----
>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
>>> Geraint Lovgreen
>>> Sent: 30 November 2015 16:14
>>> To: [log in to unmask]
>>> Subject: Re: Llys–
>>>
>>> Ond mae 'glastwr' yn un od - nid dim ond yn gwrthsefyll y treiglad meddal (glas + dwr - glasddwr) ond yn caledu'r 'd' wreiddiol i 't'. Eto, 'glasdwr' fyddai rhywun yn ei ddeud ynde, felly pam y 't', tybed?
>>>
>>>> On 30/11/2015 15:50, Geraint wrote:
>>>> treiglad caled
>>>> dyma ddisgrifiad traddodiadol (anghywir) o’r hyn sy’n digwydd mewn
>>>> achosion fel, nos da, wythnos diwethaf, glastwr, lle mae presenoldeb
>>>> ‘s’, yn gwrthsefyll y treiglad meddal disgwyliedig
>>>> ________________________________________
>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>>> vocabulary <[log in to unmask]> on behalf of Rhys
>>>> Jones <[log in to unmask]>
>>>> Sent: 30 November 2015 14:54
>>>> To: [log in to unmask]
>>>> Subject: Llys–
>>>>
>>>> Shwmae bawb
>>>>
>>>> Nid cwestiwn ynglŷn â therm mo hwn, ond un gramadegol.
>>>>
>>>> Oes unrhyw un yn gwybod pam fod yna dreiglad yn "llysfrawd", "llysfam", "llysfab", "llysferch", "llys-riant" ayyb... ond nad oes treiglad yn "llystad"?
>>>>
>>>> Diolch ymlaen llaw
>>>> Rhys
|