Yn y gogledd, efallai.
Dwi ddim yn gwybod ydi hynny'n wir yn y de. Mary? Siân?
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 02 December 2015 09:29
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Llys–
Dwi'n meddwl ei bod yn ddadlennol bod plant bach yn ysgrfennu "eisdedd, popdy" ac ati - sy'n awgrymu mai'r sain 'd' sy'n dod yn naturiol.
Geraint
On 02/12/2015 00:07, Andy Shurey wrote:
> Hoffwn i anghytuno â'r syniad mai 'd' yw'r sain rydyn ni'n glywed -
> mae caledu naturiol yn digwydd yma, a'r sain 't' rydyn ni'n ei glywed
> yn wirioneddol. Dyma'r eglurhad am y gynghanedd yn y frawddeg 'Y
> ddraid goch ddyry cychwyn" - mae'r ddwy sain 'g' yn caledu wrth ddod
> at ei gilydd yn naturiol. Os nad ydych yn meddwl felly, recordiwch
> eich hun yn ynganu 'popty' a 'llystad' a GWRANDEWCH yn astud ar y
> recordiad, a pheidio â chymryd yn ganiataol mai sain feddal rydych
> chi'n glywed. Diolch :)
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
> Carolyn Iorwerth
> Sent: 01 December 2015 22:59
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Llys–
>
> Mae'n ymddangos i mi nad yw'r orgraff yn adlewyrchu'r sain erbyn hyn. Newydd ofyn i'r teulu a'r hyn dw i'n ei glywed yw plasdy, llysdad, popdy. Dim sain 't' o gwbl. Enghraifft o'r iaith yn newid?
>
>
>
>> On 1 Dec 2015, at 21:26, Mary Jones <[log in to unmask]> wrote:
>>
>> Mae'r arfer orgraffyddol wrth sgrifennu'r tair cytsain p,t,c yn gymhleth. E.e. pam 'st' ond 'sg' ac 'sb'. Mae Peter Wynn Thomas ar dudalen 755-6 yn Gramadeg y Gymraeg yn trafod y rhyfeddod 't' yn llawn iawn, e.e. pam 'popty' ond 'clochdy'? Mater o ddysgu pryd a ble, debyg iawn.
>> Mary
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
>> Geraint Lovgreen
>> Sent: 30 November 2015 16:14
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: Llys–
>>
>> Ond mae 'glastwr' yn un od - nid dim ond yn gwrthsefyll y treiglad meddal (glas + dwr - glasddwr) ond yn caledu'r 'd' wreiddiol i 't'. Eto, 'glasdwr' fyddai rhywun yn ei ddeud ynde, felly pam y 't', tybed?
>>
>>> On 30/11/2015 15:50, Geraint wrote:
>>> treiglad caled
>>> dyma ddisgrifiad traddodiadol (anghywir) o’r hyn sy’n digwydd mewn
>>> achosion fel, nos da, wythnos diwethaf, glastwr, lle mae presenoldeb
>>> ‘s’, yn gwrthsefyll y treiglad meddal disgwyliedig
>>> ________________________________________
>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>> vocabulary <[log in to unmask]> on behalf of Rhys
>>> Jones <[log in to unmask]>
>>> Sent: 30 November 2015 14:54
>>> To: [log in to unmask]
>>> Subject: Llys–
>>>
>>> Shwmae bawb
>>>
>>> Nid cwestiwn ynglŷn â therm mo hwn, ond un gramadegol.
>>>
>>> Oes unrhyw un yn gwybod pam fod yna dreiglad yn "llysfrawd", "llysfam", "llysfab", "llysferch", "llys-riant" ayyb... ond nad oes treiglad yn "llystad"?
>>>
>>> Diolch ymlaen llaw
>>> Rhys
|