Mae'r arfer orgraffyddol wrth sgrifennu'r tair cytsain p,t,c yn gymhleth. E.e. pam 'st' ond 'sg' ac 'sb'. Mae Peter Wynn Thomas ar dudalen 755-6 yn Gramadeg y Gymraeg yn trafod y rhyfeddod 't' yn llawn iawn, e.e. pam 'popty' ond 'clochdy'? Mater o ddysgu pryd a ble, debyg iawn.
Mary
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 30 November 2015 16:14
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Llys–
Ond mae 'glastwr' yn un od - nid dim ond yn gwrthsefyll y treiglad meddal (glas + dwr - glasddwr) ond yn caledu'r 'd' wreiddiol i 't'. Eto, 'glasdwr' fyddai rhywun yn ei ddeud ynde, felly pam y 't', tybed?
On 30/11/2015 15:50, Geraint wrote:
> treiglad caled
> dyma ddisgrifiad traddodiadol (anghywir) o’r hyn sy’n digwydd mewn
> achosion fel, nos da, wythnos diwethaf, glastwr, lle mae presenoldeb
> ‘s’, yn gwrthsefyll y treiglad meddal disgwyliedig
> ________________________________________
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary <[log in to unmask]> on behalf of Rhys
> Jones <[log in to unmask]>
> Sent: 30 November 2015 14:54
> To: [log in to unmask]
> Subject: Llys–
>
> Shwmae bawb
>
> Nid cwestiwn ynglŷn â therm mo hwn, ond un gramadegol.
>
> Oes unrhyw un yn gwybod pam fod yna dreiglad yn "llysfrawd", "llysfam", "llysfab", "llysferch", "llys-riant" ayyb... ond nad oes treiglad yn "llystad"?
>
> Diolch ymlaen llaw
> Rhys
|