Hoffwn i anghytuno â'r syniad mai 'd' yw'r sain rydyn ni'n glywed - mae caledu naturiol yn digwydd yma, a'r sain 't' rydyn ni'n ei glywed yn wirioneddol. Dyma'r eglurhad am y gynghanedd yn y frawddeg 'Y ddraid goch ddyry cychwyn" - mae'r ddwy sain 'g' yn caledu wrth ddod at ei gilydd yn naturiol. Os nad ydych yn meddwl felly, recordiwch eich hun yn ynganu 'popty' a 'llystad' a GWRANDEWCH yn astud ar y recordiad, a pheidio â chymryd yn ganiataol mai sain feddal rydych chi'n glywed. Diolch :)
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Iorwerth
Sent: 01 December 2015 22:59
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Llys–
Mae'n ymddangos i mi nad yw'r orgraff yn adlewyrchu'r sain erbyn hyn. Newydd ofyn i'r teulu a'r hyn dw i'n ei glywed yw plasdy, llysdad, popdy. Dim sain 't' o gwbl. Enghraifft o'r iaith yn newid?
> On 1 Dec 2015, at 21:26, Mary Jones <[log in to unmask]> wrote:
>
> Mae'r arfer orgraffyddol wrth sgrifennu'r tair cytsain p,t,c yn gymhleth. E.e. pam 'st' ond 'sg' ac 'sb'. Mae Peter Wynn Thomas ar dudalen 755-6 yn Gramadeg y Gymraeg yn trafod y rhyfeddod 't' yn llawn iawn, e.e. pam 'popty' ond 'clochdy'? Mater o ddysgu pryd a ble, debyg iawn.
> Mary
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
> Geraint Lovgreen
> Sent: 30 November 2015 16:14
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Llys–
>
> Ond mae 'glastwr' yn un od - nid dim ond yn gwrthsefyll y treiglad meddal (glas + dwr - glasddwr) ond yn caledu'r 'd' wreiddiol i 't'. Eto, 'glasdwr' fyddai rhywun yn ei ddeud ynde, felly pam y 't', tybed?
>
>> On 30/11/2015 15:50, Geraint wrote:
>> treiglad caled
>> dyma ddisgrifiad traddodiadol (anghywir) o’r hyn sy’n digwydd mewn
>> achosion fel, nos da, wythnos diwethaf, glastwr, lle mae presenoldeb
>> ‘s’, yn gwrthsefyll y treiglad meddal disgwyliedig
>> ________________________________________
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary <[log in to unmask]> on behalf of Rhys
>> Jones <[log in to unmask]>
>> Sent: 30 November 2015 14:54
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Llys–
>>
>> Shwmae bawb
>>
>> Nid cwestiwn ynglŷn â therm mo hwn, ond un gramadegol.
>>
>> Oes unrhyw un yn gwybod pam fod yna dreiglad yn "llysfrawd", "llysfam", "llysfab", "llysferch", "llys-riant" ayyb... ond nad oes treiglad yn "llystad"?
>>
>> Diolch ymlaen llaw
>> Rhys
|