Dwi newydd wneud gwaith ar y pwnc hwn ac mae’r cwsmer yn ffafrio “swyddog cadwraeth”. Roedden nhw’n dweud bod “atgyweiriwr” yn ddewis posib arall.
Cofion
Siân
> On 5 Nov 2015, at 11:52, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:
>
> Mae GyA yn rhoi 'gwarchodwr' am conservator ond mae'r gair yn cyfleu sawl ystyr eitha gwahanol i mi, a dydi 'conservator' ddim yn un o'r cyfieithiadau a awgrymir dan 'gwarchodwr' yn GPC chwaith.
>
> Ar y llaw arall, dan 'cadwraethwr' mae GPC yn cynnig 'conservator' yn ogystal â'r ystyr mwy cyfarwydd i ni erbyn hyn sef 'conservationist'.
>
> Er yr amwysedd - os nad oes cynnig arall, dwi'n meddwl bod 'cadwraethwr' yn well gair na 'gwarchodwr' i gyfleu swydd 'conservator'.
>
> Oni bai bod gan rywun syniad gwell!
>
> Geraint
|