Mae rhestr termau Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau'n rhoi 'swyddog cadwraeth' ac 'atgyweiriwr'.
archaeological conservator - swyddog cadwraeth archeolegol
book conservator - atgyweiriwr llyfrau
manuscript conservator - atgyweiriwr llawysgrifau
paper conservator- atgyweiriwr; swyddog cadwraeth papur (dwi'n tybio mai 'atgyweiriwr papur' ddylai'r cyntaf fod)
textile conservator - atgyweiriwr tecstilau; swyddog cadwraeth tecstilau
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 05 November 2015 11:53
To: [log in to unmask]
Subject: conservator
Mae GyA yn rhoi 'gwarchodwr' am conservator ond mae'r gair yn cyfleu sawl ystyr eitha gwahanol i mi, a dydi 'conservator' ddim yn un o'r cyfieithiadau a awgrymir dan 'gwarchodwr' yn GPC chwaith.
Ar y llaw arall, dan 'cadwraethwr' mae GPC yn cynnig 'conservator' yn ogystal รข'r ystyr mwy cyfarwydd i ni erbyn hyn sef 'conservationist'.
Er yr amwysedd - os nad oes cynnig arall, dwi'n meddwl bod 'cadwraethwr'
yn well gair na 'gwarchodwr' i gyfleu swydd 'conservator'.
Oni bai bod gan rywun syniad gwell!
Geraint
|