Diolch, Ann
Fe roddais yr ymholiad ar Facebook hefyd a chael ateb gan ffrind o Lanafan yn dweud mai “ffordd” roedden nhw’n ddweud.
Mae’n debyg eu bod yn dweud ‘hewl’ mewn rhai pentrefi cyfagos.
Cofion
Siân
> On 30 Nov 2015, at 15:10, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:
>
> Pan oeddwn i'n cyfieithu cofnodion Pwyllgor Datblygu Ceredigion, byddwn i bob amser yn gwirio enwau strydoedd gyda Delyth Davies yn swyddfa cyfieithu'r Cyngor. 'Rwyf wedi copio'r neges hon ati hi, ond wn i ddim a yw hi'n aelod o'r grwp ac felly'n medru postio yma. Efallai hoffech ysgrifennu ati'n uniongyrchol gyda'ch cyfeiriad e-bost.
>
> Cofion,
>
> Ann
>
> On 26/11/2015 12:42, Sian Roberts wrote:
>> Helo
>> Oes rhywun yn gwybod beth yw’r gair am heol/ffordd yn ardal Llanafan?
>> Diolch
>> Siân
>>
>>
>> -----
>> No virus found in this message.
>> Checked by AVG - www.avg.com
>> Version: 2016.0.7227 / Virus Database: 4460/11068 - Release Date: 11/26/15
>>
>>
>>
|