Be ma Minwel Tibbot yn ei ddefnyddio yn Amser Bwyd - a i chwilio. Dim problem fel arfer ond ma'r llyfre coginio i gyd mewn bocs mawr tra ma'r gegin yn cael ei sbriwsio!
----Original message----
From : [log in to unmask]
Date : 12/10/2015 - 12:38 (GMTDT)
To : [log in to unmask]
Subject : ATB/RE: celfi malu bara ceirch
Mae'r ateb yma dwi'n meddwl Sian - yn acen Sir Feirionnydd o leiaf
ca’l y malwr ‘te – peth pwrpasol o’ hwnnw eto’n te yn Tŷ Hen. Rhywbeth fel rholbren ond bo ne ricie yn ‘o fo
Felly 'malwr' ond mae'n siŵr y bydde'n well esbonio trwy nodi 'malwr bara ceirch'.
Y darn wedi codi hiraeth arnaf am 'siot'!
Cofion
Beryl
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Sian Roberts
Anfonwyd: 12 October 2015 12:28
At: [log in to unmask]
Pwnc: celfi malu bara ceirch
Beth fyse rhywun yn ei ddweud am gelfi malu bara ceirch?
Dwi'n cymryd mai dyma sydd mewn golwg: http://www.museumwales.ac.uk/blog/2015-07-06/DyddiadurKate---Pobi-Bara-Ceirch/
Oatcake crushers? Oatcake crumblers? Oatcake rollers? - ond gallai "roller" awgrymu mai rolio'r toes mae'n ei wneud fel rholbren.
Diolch
Siân
|