Do diolch, dwi wedi gweld hwnna, ond mae hwnna'n amlwg yn gyfieithiad
o'r cyfieithiad Saesneg! Isio'r geiriau gwreiddiol ydw i, nid
cyfieithiad o gyfieithiad! ;-)
Geraint
On 27/10/2015 11:32, Neil Shadrach wrote:
> http://www.amgueddfacymru.ac.uk/celf/arlein/?action=show_item&item=160
>
> "Dyma ddarlun o Gawen Goodman o Ruthun yn bum deg chwech oed, yn
> gwisgo modrwy goffa. Mae’r benglog yn ein hatgoffa o’n marwoldeb.
> Ymysg yr arysgrifiadau ceir y myfyrdodau Cristnogol Deum timere
> (ofnwch Dduw) a Iesus est amor meus (Iesu yw fy nghariad). Fe’i
> portreadir fel gŵr duwiol a pharchus, ond ysgrifennodd Thomas Prys y
> canlynol amdano, 'Os yw’n mynd i’r afael â gwinoedd rhyw dref, ni fydd
> yn dychwelyd adref heb faglu: wel, mi wn y gall yfed ei gyfran, os oes
> gwin ar gael, ni fydd yn fodlon ar lymru. Mae Gawen yn ddyn hael a
> duwio l-ar ôl cael gwydraid neu ddau..'"
>
> Ar 27 Hydref 2015 am 11:21 , ysgrifennodd Geraint Lovgreen <
> [log in to unmask] > :
>> Tybed fedr rhywun fy helpu? fedri di gael gafael ar gywydd gani Gawen
>> Gwdmon?
>>
>> Dwi'n cyfieithu erthygl sy'n dyfynnu'r geiriau canlynol gan y bardd Thomas
>> Prys am Gawain Goodman o Ruthun: Dwi'n cymryd mai darn o gywydd y bardd i
>> Gawen Gwdmon yw hwn - tybed oes gan rywun gopi o'r llinellau gwreiddiol?
>>
>> 'If he once gets at the wines of a town, he'll not come home without
>> tripping: well I know how he can drink his share; If there's sack to be had,
>> he'll not put up with gruel. A generous and godly man is Gawain-when in his
>> cups.’
>>
>> Diolch ymlaen llaw am unrhyw oleuni!
>>
>> Geraint
|