Ac agor pen y mwdwl hwn eto, John Davies oedd un o olygyddion y Gwyddoniadur, wrth gwrs, felly efallai nad yw'n syndod mai'r un ffurfiau a geir yno ag sydd yn 'Hanes Cymru'. Mae'n siŵr bod ganddo ei resymau am ddewis y ffurfiau hyn ond eto o'r hyn a welaf i, eithriad yw'r rhain i'r arfer hen sefydlog o ddefnyddio'r enwau Cymraeg ar y lleoedd mewn teitlau:
'Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru' Gwasg y Brifysgol - e.e. o dan yr eitem ar 'William Herbert', ceir sôn am 'Iarll Warwig', 'Ieirll Caerwrangon', 'Ieirll Penfro' (ac 'Edward o Iorc')
'Cymru a'r Diwygiad Protestannaidd' - R. Tudur Jones (Y Colegwim Cymraeg, 1987) sôn am 'Iarll Caerwrangon'
'Gwaith Iorwerth Fynglwyd' - gol. H Ll. Jones & E. I. Rowlands (Gwasg y Brifysgol, 1975) - yn y nodiadau ar gerdd 13, t.107, 'Iarll Penfro'
'Gramadeg y Gymraeg' - Gruffydd Robert - Rhagymadrodd G. J. Williams (1939) - 'Iarll Penfro' [Defnyddiodd Gruffydd Robert yntau y ffurf 'Iarll o Benfro' yn ei ragair i'r 'Dosparth Byrr' yn 1567]
'Llenyddiaeth Cymru o 1450 Hyd 1600' - W J Gruffydd (1922) - 'Iarll Penfro'
Rwy'n meddwl bod digon o dystiolaeth i ddangos bod hyn yn arfer naturiol mewn cyhoeddiadau safonol gan ysgrifenwyr safonol a hynny ers amser maith. Wrth gwrs, os yw'r mawrion hyn yn moyn esgus taw eu cyfenwau nhw yw enwau'r lleoedd hyn, rhwydd hynt iddyn nhw - dyw i ddim yn mynd i ddannod hwnna iddyn nhw - ond dyw i ddim yn siŵr ei bod hi'n orfodaeth arnom ni adael i arferion rhyfedd uchelwyr Lloegr effeithio ar sut ryn ni'n defnyddio ein hiaith ni!
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of David Bullock
Sent: 19 Hydref 2015 20:42
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: the Earl of Snowdon
Wedi bod yn chwilio am enghreifftiau, i ategu barn Tim a Geraint, mae yna'r enwog Ddug Caeredin, ac mae yna gyfeiriad at enw Dug Cernyw yn Neddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 sydd felly wedi cael sêl bendith y ddeddfwrfa.
Ar y llaw arall, mae John Davies yn 'Hanes Cymru' yn enwi 'iarll Leicester', 'ieirll Worcester', 'ieirll Pembroke', ac mae golygyddion y Gwyddoniadur yn cyfeirio at 'iarll Pembroke' a 'dug York'.
Enwau lleoedd wedi'u troi'n rhyw fath o enwau personol i'w harddel fel teitlau yw'r rhain am wn i.
At ei gilydd, rwy'n credu mai dilyn Hanes Cymru a'r Gwyddoniadur yw' peth gorau.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 19 Hydref 2015 10:43
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: the Earl of Snowdon
Cytuno.
On 19/10/2015 09:25, Saunders, Tim wrote:
> Fy nheimlad i yw fod teitlau tiriogaethol yn cael eu trosi, gan eu bod wrth wiadd yn ddisgrifiadau. (Mr. Prussia, felly, oedd enw wyr Kaiser Bill ac yntau yn fyfyriwr israddedig yn y Lle Arall yn y Tridegau). Buaswn i fy hun, pe'm gorfodid i lunio fersiwn Gymraeg o ddogfen ffurfiol ynghylch Toni Bont, yn cyfeirio ato fel Iarll Eryri, a Magi Bont fel Iarlles Eryri.
>
> Yn iach,
>
> Tim
>
> -----Neges Wreiddiol/Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of David Bullock
> Sent: 16 October 2015 15:32
> To: [log in to unmask]
> Subject: the Earl of Snowdon
>
> Ydw i'n iawn i feddwl mai Iarll Snowdon fyddai'n iawn wrth gyfeirio at hwn yn Gymraeg?
>
> (Mae ambell engh. yn codi drwy gyfrwng Google, ond mae ambell 'Iarll Eryri' hefyd.)
>
> This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
>
> For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
>
>
>
> Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.
> I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2015.0.6172 / Virus Database: 4447/10849 - Release Date: 10/19/15
|