Does gen i ddim Windows 10, ond mi ges i drafferth i gael botymau Cysill i
ymddangos ar y bar offer yn ddiweddar. Dyma'r cyfarwyddyd ges i:
I gael y botymau ar y bar offer yn Word 2013, mae angen lawr lwytho’r
rhaglen ganlynol ar ôl lawr lwytho Cysgliad:
http://www.cysgliad.com/downloads/microsoftoffice/gosodbaroffer.exe
Dwn i ddim ydi hynny o ryw help i ti.
Rhian
-----Original Message-----
From: Cathrin Alwen Llywelyn
Sent: Monday, October 26, 2015 9:33 AM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Gwiryddion sillafu a Windows 10 ac Office 2013
Diolch Catrin - dwi'n methu â chael hyd i'r diweddariad ar y we. Lle gest
ti gopi?
Tybed pa fersiwn o Microsoft Office wyt ti'n ei ddefnyddio? Hyd yn oed os
ydw i'n cael copi wedi'i ddiweddaru ar gyfer Windows 10, bydd yn rhaid iddo
hefyd fod yn gydnaws â'r rhaglenni office er mwyn gallu rhedeg Cysill o fewn
dogfen. Hoffwn i ddefnyddio'r fersiynau Office diweddaraf, ond a oes rhaid
parhau i ddefnyddio fersiwn 2007? Dydw i erioed wedi gallu cael Cysill i
weithio yn unrhyw fersiwn sy'n ddiweddarach na honno.
Yr hyn y byddwn i wrth fy modd yn ei gael hefyd ydi pecyn prawfddarllen
Microsoft Word ar gyfer y Gymraeg, er mwyn i mi allu ei ddefnyddio oddi mewn
i Deja Vu X2. Byddai hynny'n arbed oriau o waith yn golygu ar ôl allfudo
dogfennau. A oes unrhyw un yn gwybod pa becyn yw'r diweddaraf sy'n gweithio,
er mwyn i mi sicrhau fy mod yn defnyddio'r fersiwn gyfatebol o Office? Alla
i ddim cael y fersiynau diweddaraf o'r pecynnau i weithio o gwbl!
Mae dewis rhwng yr holl fersiynau gwahanol yma o feddalwedd, a chael y cyfan
i gydweithio'n llwyddiannus yn dipyn o dasg! Ar ben hynny, os bydd cleient
yn gyrru fersiwn ddiweddarach o ddogfen, a minnau'n gorfod gweithio arni
mewn fersiwn gynharach, gall hynny achosi problemau wrth fformadu.
Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau a phrynu gwahanol feddalwedd/galedwedd yn
seiliedig ar yr hyn sy'n gweithio, neu sydd ar gael, ar hyn o bryd, oes gan
unrhyw un newyddion am brosiectau gwirio sillafu/prawfddarllen ac ati sydd
yn yr arfaeth?
|