Waw, mae hynna'n swnio'n annealladwy i fi, druan o'r plant! Be am
rywbeth fel "tri lot o bump"?
On 02/07/2015 13:39, David Bullock wrote:
> Pan dreulies i gyfnod byr yn arsylwi ar wersi mewn ysgol gynradd hanner fy
> oes yn ôl, roedd un athrawes wrth aralleirio neu esbonio syms lluosi yn
> dweud 'tri o rai pump' (3x5), neu 'chwech o rai bedwar' (6x4) ac ati.
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
> Sent: 02 Gorffennaf 2015 13:16
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: times
>
> Mae'n anodd dweud heb weld y cyd-destun i gyd, ond oni raid meddwl am y peth
> fel petai'r awdur yn ysgrifennu yn Gymraeg, nid chwilio am gyfieithiadau o
> eiriau Saesneg, h.y. meddwl am "ddulliau a ddefnyddir" i son am luosi, nid
> "geiriau a ddefnyddir". Mae hyn yn digwydd i ryw raddau wrth i bobl gynnig
> y pethau y mae eu plant yn eu defnyddio, ond oni ddylid dweud (gall rhywun
> arall awgrymu sut) bod modd son am luosi yn Gymraeg heb ddefnyddio gair am
> "times" o gwbl. Wrth feddwl, dwyedir - neu dywedid - six sixes are
> thirty-six, nid six times six is thirty-six.
> (Gyda llaw, "chwe saith" a "pum saith" byddai i'n eu dweud, nid "chwech
> saith" ayb.) Ann
>
> On 02/07/2015 11:46, Sioned Graham-Cameron wrote:
>> Trin iaith mathemateg mae o, ac enghreifftiau o eiriau a ddefnyddir
>> wrth sôn am luosi yw "times / lots of ..." ac ati
>>
>> Wrth gyflwyno'r swm, dwi'n cytuno nad oes angen defnyddio gair penodol ...
> falla mai dyna pam fedra i ddim meddwl beth fyddai'r gair!
>>
>> On 2 Jul 2015, at 11:40, Megan Tomos wrote:
>>
>>> Oes angen rhywbeth o gwbl? Chwech saith = pedwardeg dau?
>>>
>>> Sent from my iPad
>>>
>>>> On 2 Gorff 2015, at 12:31, Sioned Graham-Cameron
> <[log in to unmask]> wrote:
>>>> Teimlo'n hynod dwp bore ma!
>>>>
>>>> Mathemateg yw'r testun - beth ddefnyddir am 'times' h.y. 6 times 7?
>>>>
>>>> Diolch.
>>>>
>>>> Sioned
>> -----
>> No virus found in this message.
>> Checked by AVG - www.avg.com
>> Version: 2015.0.6081 / Virus Database: 4365/10144 - Release Date:
>> 07/02/15
>>
>>
>>
|