"Defnyddir 'm, 'th yn y cyflwr GENIDOL ar ôl y geiriau a(cys.), â (ardd.), gyda, tua, efo (= gyda), na, i (ardd.), o (ardd.), mo (= ddim o). Yna "Defnyddir 'i, 'n, 'ch, 'u yn y GENIDOL a'r GWRTHRYCHOL h.y. o flaen enwau, berfenwau a berfau..." Felly, yn yr achos hwn mae'n debyg mai 'a'm bod' mae SJW yn ei awgrymu. Ond wedyn mae'n dweud "Ar lafar defnyddir y Rhagenwau Blaen yn gyffedin yn lle'r rhai Mewnol, e.e. fy mrawd a fy chwaer". Ai dyna'r 'let-out clause' ichi, felly?
Mary
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 30 July 2015 11:31
To: [log in to unmask]
Subject: Re: a fy mod, a'm bod
... a beth mae o'n ddeud?
On 30/07/2015 11:18, Mary Jones wrote:
> Mae Stepehn J Williams yn trafod y rhagenwau mewnol ar dudalennau 59-60 yn Elfennau Gramadeg Cymraeg.
> Mary
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
> Sent: 30 July 2015 10:27
> To: [log in to unmask]
> Subject: a fy mod, a'm bod
>
> Help - Galw'r gramadegwyr!!
>
> Dwi wedi drysu braidd ac yn methu dod o hyd i'r ateb yn PWT -
>
> Be sy'n gywir - "Gwelodd fod y bwthyn yn wag a fy mod wedi mynd" YNTEU
> "Gwelodd fod y bwthyn yn wag a'm bod wedi mynd" ??
>
> Geraint
>
|