Byddaf yn defnyddio "gwasarn" ar gyfer cat / poultry litter (NID
"torllwyth", oedd ar arwydd Safeways yn yr hen ddyddiau!), ond y deunydd
a ddefnyddir ar lawr byddai hynny. Mae'n debyg y gellid defnyddio'r un
enw ar gyfer y deunydd wedi'i faeddu? Cymeraf fod yr hyn dan sylw yn
cynnwys gwasarn, nid dim ond yr hyn sy'n syrthio rhwng bariau caetsys?
Ann
On 12/07/2015 10:16, Gareth Jones wrote:
> Mae broiler litter yn gymysgedd o faw ieir, bwyd ieir (sydd wedi disgyn a chymysgu â'r tail), plu (sydd wedi cael eu colli neu eu diosg gan yr ieir ac hefyd wedi cymysgu â'r tail) a pha bynnag ddeunydd a ddefnyddir ar lawr y cwt ieir (e.e. gwellt). Gwastraff o gytiau ieir i bob pwrpas - hefyd yn cael ei alw yn poultry litter.
>
>
> Sent from my BlackBerry® wireless device
>
> -----Original Message-----
> From: Sian Roberts <[log in to unmask]>
> Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
> Date: Sun, 12 Jul 2015 10:09:47
> To: <[log in to unmask]>
> Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> <[log in to unmask]>
> Subject: tail
>
> Rhywun yn gwybod beth yw "broiler litter" a "biosolids cake" yng nghyd-destun tail ar fferm?
>
>
> Diolch
>
> Siân
>
>
> -----
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2015.0.6081 / Virus Database: 4392/10213 - Release Date: 07/12/15
|