Ro'n i yn fy mlwyddyn olaf yn y Brifysgol cyn darganfod mai "wyneb" yw'r gair cywir, nid "gwyneb"!
Meinir
Ond maen nhw'n ychwanegu "g" at "wyneb" ac "ewin" am eu bod nhw'n meddwl mai ffurfiau wedi'u treiglo ydyn nhw!
Siân
On 2015 Meh 18, at 2:47 PM, Ann Corkett wrote:
I grwydro ychydig: darllenais erthygl gyfan ynghylch cwn defaid yn Y Cymro unwaith, gan wladwr enwog nad enwa i mohono, ac 'roedd yn amlwg nad oedd o erioed wedi sylweddoli mai "gast" yw'r prifair, yn hytrach nag "ast". Mae'r un peth yn digwydd weithiau, hyd yn oed mewn llyfrau plant, gyda'r geiriau megis "gwiwer" "gefell" ayb - mae pobl mor gyfarwydd a'r ffurf treigledig fel nad ydynt yn sylweddoli bod "g" yn y gair.
Ann
On 18/06/2015 10:11, Eurwyn Pierce Jones wrote:
Chlywais i neb erioed, ymhlith y gymuned ffermio yng nghefn gwlad (naddo'n wir), yn dweud y fath beth â 'dwy gast' !! 'Dwy ast' bob tro. 'Dau gi' ynghyd â 'thri chi' hefyd, a glywa i'n cael ei dweud yn gyson gan ffermwyr cyffredin - o hiliogaeth Gymraeg iaith gyntaf, o leiaf.
|