Gwaith gwirfoddol ydy'r cyd-destun. Cyfeirir at 'community fundraising' (sy'n ddigon rhwydd - codi arian yn y gymuned) a 'corporate fundraising'.
Bydd y gwirfoddolwyr sy'n gyfrifol am yr ail o'r rhain yn trafod â chwmnïau a busnes lleol ac yn gwneud cyflwyniadau am waith yr elusen sydd dan sylw.
Wn i ddim a ydy 'codi arian corfforaethol' yn gwneud synnwyr - mae hynny'n swnio fel cyfieithiad llythrennol i mi a dydy 'corfforaethol' ddim yn disgrifio'r weithred o godi arian mewn gwirionedd.
Sent from my BlackBerry® wireless device
|