Mae peidio ā rhoi'r fannod yn edrych yn rhyfedd i fi yn bennaf oherwydd y
treiglad. Fydda i'n ceisio osgoi defnyddio'r talfyriad beth bynnag ond dw
i'n derbyn bod rhaid weithiau. Ond os ydy rhywun yn meddwl am ddarllen y
testun ar goedd, byddai rhywun yn sicr yn cynnwys y fannod, felly, dw i ddim
yn deall y rhesymeg dros beidio ā'i defnyddio.
Carolyn
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Sian
Roberts
Anfonwyd: 4 Mehefin 2015 12:33
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: y fannod o flaen DU
Mae TermCymru'n rhoi dim ond "DU" am "UK" ar ei ben ei hunan (Statws 1) ond
yn defnyddio'r fannod mewn termau fel "punnoedd y DU" etc
Ydi hynna'n helpu?
Siān
On 2015 Meh 4, at 11:58 AM, Eluned Mai wrote:
> Bore da bawb!
>
> Wedi bod yn pendroni a ddylwn i roi 'y' o flaen 'DU' pan fydd yn ymddangos
mewn cromfachau mewn rhestr, e.e. Disability Organizations (Wales),
Disability Organizations (UK). Mi fydda i wastad yn ei gynnwys o fewn
testun oherwydd y treiglad, ond mi wnes i ei hebgor yn awtomatig wrth ei
deipio o fewn cromfachau y bore 'ma. Wrth ei gynnwys (y DU) roedd yn edrych
yn od i ddechrau ond wedyn, o edrych ar (DU) hebddo, roedd hwnnw'n edrych yn
od hefyd gan mai TU ddylai o fod heb y fannod, a fasa gan neb syniad yn y
byd beth fasa ystyr hynny. Dwi ddim yn cofio sylwi arno o'r blaen, felly
dwi ddim yn gwybod beth sy'n dderbyniol. Ydw i'n hollti blew? Ddylen ni
gymryd yn ganiataol bod y fannod ar goll?
>
> Diolch am unrhyw sylwadau!
>
>
|