Dyma'r neges olaf yn y drafodaeth flaenorol - gan Huw Garan:
Dyma sydd gan lyfr Cymdeithas Edward Llwyd 'Planhigion Blodeuol, Conwydd a
Rhedyn' (Rhif 2 yng nghyfres Enwau Creaduriaid a Phlanhigion) (2003) a
gwefan llen y llysiau (www.llenyllysiau.com) i'w ddweud ar y mater:
Vaccinium oxycoccos cranberry llygaeren (b.)
llygaeron
Vaccinium microcarpum small cranberry llygaeren fach (b.)
llygaeron bach
Vaccinium macrocarpon American cranberry llygaeren America
(b.)
Vaccinium vitis-idaea cowberry llusen goch (b.)
llus coch (-ion)
Vaccinium uliginosum bog bilberry llusen y gors (b.)
llus y gors
Vaccinium myrtillus bilberry llusen (b.) llus
Vaccinium corymbosum blueberry llusen America (b.) llus
America
Gobeithio bod hyn yn help.
Hg
Llus America felly.
On 01/05/2015 11:19, Einir Hughes wrote:
> Dwi wedi edrych yn ôl ar drafodaeth flaenorol a gafwyd am y ffrwythau bach yma, ond doedd yna ddim cytundeb ar derm Cymraeg amdanyn nhw.
>
> Feddylish i ddilyn patrwm y 'blackberry' a chynnig 'mwyar gleision', ond mae'r rhain eisoes yn bodoli ('dewberries' yn ôl GPC)
>
> Dydyn nhw ddim yr un fath â 'bilberries', sef llus, a'r broblem ydi mai wedi dod drosodd o America maen nhw'n wreiddiol, felly does yna ddim enw Cymraeg arnyn nhw. (Mae llus i'w gweld yn Llyfr Natur Iolo Williams, ond does na'm sôn am 'blueberries').
>
> Mae rhai pobl yn cyfeirio at lus fel 'llus duon', felly fyddai'n syniad gwahaniaethu drwy roi 'llus gleision'?
> Neu fathu term newydd fel 'glasaeron'?
>
> Dwi wedi bod yn pendroni am hyn ers sbel, ond mae o newydd godi mewn darn o waith dwi wrthi'n ei gyfieithu, felly mi fyswn i'n ddiolchgar iawn am unrhyw farn neu gymorth!
>
> Diolch,
> Einir
>
|