Mae'r Porth Termau yn rhoi "siawns" am "chance" (Termiadur Addysg)
Mae GyrA a'r Porth Termau yn rhoi "siawns deg" am "even chance" felly dwi'n cymryd y byddai "siawns o un mewn pedwar" yn iawn.
Dim ond pum gwahanol enghraifft mae Google yn ei ffeindio o "siawns o un mewn" - un o'r rheiny o Raglen Astudio Mathemateg Cyfnod Allweddol 2. Falle bod hynny'n awgrymu bod rhywbeth arall yn cael ei ddefnyddio.
Cofion
Siân
On 2015 Mai 17, at 5:55 AM, Gareth Jones wrote:
> Tebygolrwydd (mathemateg) ydy'r cyd-destun. Sut mae cyfleu hyn yn Gymraeg?
> Sent from my BlackBerry® wireless device
|