'Rwyf wedi cael caniatad i ddyfynnu'r ateb a gefais gan derminolegydd o
TermCymru.
Ann
Rwyf wedi gwneud rhywfaint o waith ymchwil i’r cofnod ar TermCymru, ac i deitl y ddogfen yn Gymraeg a Saesneg.
Mae’r ddogfen rydych yn cyfeirio ati wedi’i chyhoeddi fan hyn:
http://gov.wales/topics/health/publications/health/reports/care/?skip=1&lang=cy (Cymraeg)
http://gov.wales/topics/health/publications/health/reports/care/?skip=1&lang=en (Saesneg)
O agor y ddogfen ei hun ac edrych ar y ddalen flaen gwelaf nad yw’r gair 'allanol' yn codi yn yr is-deitl ac nid wyf yn credu ei fod yn codi yn y ddogfen ei hun chwaith. Felly hefyd y gair 'external' yn y fersiwn Saesneg.
Y teitlau cywir, yn Gymraeg a Saesneg, yw:
Ymddiried mewn Gofal: Adroddiad Adolygiad Annibynnol o Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Trusted to Care: Report of the Independent Review of the Princess of Wales Hospital and Neath Port Talbot Hospital at Abertawe Bro Morgannwg University Health Board
Mae’r teitl wedi cael statws 1 yn TermCymru am ei bod yn deitl ar ddogfen gyhoeddedig, ac felly nad oes modd ei newid. Dyma ein harfer ar gyfer dogfennau cyhoeddedig ac nid yw’r ffaith ei bod ar statws 1 yn golygu, o reidrwydd, y bu’r teitl drwy broses safoni lawn.
Mae’n amlwg y gwnaed camgymeriad wrth godi’r teitl i’w roi yn TermCymru, drwy gofnodi’r teitl sydd ar y dudalen we yn hytrach na’r teitl sydd ar ddalen flaen y ddogfen ei hun. Byddwn yn cywiro TermCymru cyn gynted â phosibl i adlewyrchu teitlau cywir yr adroddiad yn Gymraeg a Saesneg.
Nid wyf yn sicr pam yr ychwanegwyd y geiriau 'allanol' ac 'external' at y teitlau sy’n ymddangos ar dudalennau gwefan Llywodraeth Cymru. Mae’n bosibl bod y geiriad hwn yn adlewyrchu fersiwn gynharach, ddrafft, ar is-deitl yr adroddiad, ond ni allaf fod yn siŵr o hynny.
Nid wyf ychwaith yn gwybod pam bod yr ansoddeiriau yn y teitl Cymraeg a ymddengys ar y dudalen we yn dilyn y patrwm a geir yno. Byddwn yn tueddu i gytuno â chi bod y patrwm cyffredinol (ansoddair 1) (ansoddair 2) (enw) = (noun) (adjective 2) (adjective 1) yn fwy cyson â theithi’r iaith ac y byddai 'Adroddiad Allanol Annibynnol' yn fwy cyson â phatrwm naturiol y Gymraeg fel cyfieithiad o 'External Independent Review'.
Gobeithio bod yr ateb hwn yn ddefnyddiol ichi.
On 14/04/2015 16:00, Ann Corkett wrote:
> Diolch am y cyfraniadau, Carolyn, a Geraint. Am sawl rheswm 'rwy'n
> tueddu at Adolygiad Annibynnol Allanol, ond nid felly'r enghraifft o
> TermCymru.
>
> Pan oedd gennyf gyswllt a rhywun a oedd yn ymwneud a TermCymru 'roedd
> yn ddigon hawdd codi cwestiwn ynghylch anghysonderau. Erbyn hyn, o
> edrych dan "Rhagor o Wybodaeth", cewch "Nid yw Gwasanaeth Cyfieithu
> Llywodraeth Cymru yn cynnig gwasanaeth terminoleg ar gyfer y cyhoedd.
> Os oes gennych ymholiadau am dermau, cysylltwch â Chomisiynydd y
> Gymraeg". Ffoniais swyddfa'r Comisiynydd a dywedwyd wrthyf nad oedd
> ganddynt dim syniad fod y fath gyfarwyddyd i'w weld ar TermCymru a
> byddai'n rhaid iddynt ofyn am ei newid (yn amlwg nad oes neb arall
> wedi gofyn am gyngor ganddynt).
>
> Mae gobaith y bydd rhywun yn cysylltu a fi o TermCymru yn hwyr neu'n
> hwyrach, ond os na chaf ateb mewn pryd, bydd yn rhaid ymgynghori a'r
> cwsmer a gadael iddi fo benderfynu pa fersiwn i'w ddefnyddio yn y
> gwreiddiol.
>
> Diolch,
>
> Ann
>
> On 14/04/2015 15:19, Carolyn Iorwerth wrote:
>> Dw i'n meddwl bod y dryswch yn codi yma oherwydd bod 'Independent
>> Review' ac 'External Review' (h.y. y ddau fath o Adolygiad) yn
>> digwydd yn aml, felly mae rhywun yn gyfarwydd ag 'Adolygiad
>> Annibynnol' ac 'Adolygiad Allanol' ond ddim mor gyfarwydd efallai â'r
>> cyfuniad o'r ddau. Mae hyn yn amlwg yn wir yn y Saesneg hefyd am nad
>> yw pobl yn siŵr iawn ym mha drefn y dylai'r geiriau fod. Dw i'n
>> tueddu i feddwl mai Adolygiad Annibynnol gan adolygwyr Allanol ( yn
>> hytrach nag Adolygiad Allanol gan Adolygwyr annibynnol) yw hwn ond dw
>> i'n drysu fy hun! Oes 'na wahaniaeth rhwng y ddau? Dw i'n meddwl bod
>> trefn y geiriau'n rhoi pwyslais ychydig yn wahanol.
>> Carolyn
>>
>> -----Neges Wreiddiol/Original Message-----
>> Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On
>> Behalf Of Geraint Lovgreen
>> Anfonwyd: 14 Ebrill 2015 12:52
>> At: [log in to unmask]
>> Pwnc: Re: External Independent Review
>>
>> Os dilyn EIR - Adolygiad annibynnol allanol felly ie?
>>
>> On 14/04/2015 12:45, Ann Corkett wrote:
>>> A oes 'na drefn gydnabyddedig i'r geiriau yn y Saesneg A'r Gymraeg?
>>> Ymddengys "adolygiad allanol annibynnol" ac "adolygiad annibynnol
>>> allanol" i'w cyfieithu yn yr un testun. Gwelaf "external independent
>>> review" ac "independent external review" ill dau ar Gwgl, ond dim ond
>>> at y cyntaf y cyfeirir fel acronym (EIR), felly cymeraf mai hwnnw sy'n
>>> iawn.
>>>
>>> Un enghraifft sydd yn TermCymru:
>>> Trusted to Care: Report of the external [sic] independent Review of
>>> the Princess of Wales Hospital and Neath Port Talbot Hospital at
>>> Abertawe Bro Morgannwg University Health Board more information
>>> Ymddiried mewn Gofal: Adroddiad Adolygiad Allanol Annibynnol o Ysbyty
>>> Tywysoges Cymru ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ym Mwrdd Iechyd
>>> Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Ond pam mae'r geiriau Cymraeg yn y
>>> drefn y maent? 'Rwyf wastad yn tueddu i gyfieithu enw ac ansoddeiriau
>>> fel hyn:
>>> (ansoddair 1) (ansoddair 2) (enw) = (noun) (adjective 2) (adjective
>>> 1). Dywed Bruce mai dyna'r arfer, ond nid yw'n rheol haearnaidd, ond
>>> yn dibynnu ar a yw un o'r ansoddeiriau'n arfer bod ynghlwm a'r enw,
>>> e.e. cath fach ddu - a small black cat / a black kitten.
>>>
>>> Felly, 'rwy'n "weddol" ffyddiog mai EIR yw'r drefn ar gyfer fy
>>> nghyfieithiad - ond beth ddylai'r gwreiddiol fod?
>>>
>>> Llawer o ddiolch,
>>>
>>> Ann
>>>
>>
>> -----
>> No virus found in this message.
>> Checked by AVG - www.avg.com
>> Version: 2015.0.5863 / Virus Database: 4331/9534 - Release Date:
>> 04/14/15
>>
>>
>>
>
>
> -----
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2015.0.5863 / Virus Database: 4331/9534 - Release Date: 04/14/15
>
>
|