O edrych ar wefan Cyngor Sir Gâr, mae’n ymddangos mai Ffwrnes mae'r cyngor yn ei ddefnyddio yn amlach na pheidio.
Gellid holi uned gyfieithu'r cyngor, efallai.
Does dim cofnod yn y Rhestr o Enwau Lleoedd, hyd y gwelaf i.
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Meinir Thomas
Sent: 17 April 2015 09:06
To: [log in to unmask]
Subject: Furnace
Bore da bawb,
Tybed a fedrwch chi fy helpu i â'r uchod - mae'n creu tipyn o ddryswch! Yn ôl gwefan Enwau Cymru, Ffwrnais yw Furnace yn Gymraeg, ac yn ôl Geiriadur yr Academi, mae 'Y Ffwrnais' yn enw ar le yng Nghymru (ond efallai ei fod yn sôn am y pentref yng Ngheredigion yn hytrach na Sir Gaerfyrddin - neu'r ddau?). Fodd bynnag, rwyf newydd edrych ar Google Maps ac yn gweld mai "Ffwrnes" sydd ar yr arwydd ar gyfer y pentref, ac Ysgol Gymraeg Ffwrnes sydd ar wefan yr ysgol leol. Wedi gŵglo 'Ffwrnes' a 'Ffwrnais', ac yn y canlyniadau ar gyfer Ffwrnes, mae'r ysgol a'r theatr yn dod i fyny, ac ar gyfer Ffwrnais, mae'r pentref yn dod i fyny, a hynny gan ffynonellau megis yr Eisteddfod a'r BBC.
Pa un sy'n gywir?
Meinir
|