Dw wedi rhoi 'y galon yn curo'n araf' neu 'curiad calon araf' am hyn yn y gorffennol pan oedd y ddogfen ar gyfer cleifion. Rheoli faswn i'n ei roi am 'pacing' dwi'n meddwl. A 'teclyn/dyfais' rheoli ar gyfer 'pacer'?
Carolyn
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint Lovgreen
Anfonwyd: 28 Ebrill 2015 12:59
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: bradycardia pacing
Ha! wnes i ddarllen y pennawd yn Gymraeg fel "brad y cardia"!
Ynglyn â pacing - dyfais sy'n rheoli ydi rheoliadur, a dyfais neu berson sy'n rheoli ydi rheolydd. Dwi ddim yn meddwl bod y fath ferfau â rheoliadu a rheolyddu.
Geraint
On 28/04/2015 11:36, Dafydd Timothy wrote:
> Yng nghyd-destun iechyd, wrth reswm:
>
> Bradycardia Pacing
>
> Bradycardia: Fasech chi'n defnyddio bradycardia neu arafwch/hwyrguriad
> y galon (GyA)?
>
> Pacing : Rheoliadu neu rheolyddu... mae Cysgeir yn deud 'rheoliadur y
> galon' am 'pacemaker' ond GyA hefyd yn defnyddio rheolydd?
>
> Diolch,
> Dafydd
>
> ---
> This email has been checked for viruses by Avast antivirus software.
> http://www.avast.com
>
|