Siān
Cacwn rydan ni'n galw bumblee-bees ffordd 'ma.
Y fźl-wenynen ydi bee.
Gwenyn meirch ydi wasp i mi, ond mae 'na lu o amrywiadau ledled Cymru am y
rhain.
Mae Elwyn, sy'n enegidol o'r Rhos, yn dweud "cacen" am wasp.
Cofion
Bethan
[log in to unmask]
-----Original Message-----
From: Sian Roberts
Sent: Monday, February 23, 2015 11:12 AM
To: [log in to unmask]
Subject: bumble-bee
Beth mae pobl y tu allan i Geredigion/Sir Gaerfyrddin yn ei ddweud am
"bumble-bee"?
Mae rhai geiriaduron yn dweud "cacynen" ond mae hwnnw'n cael ei ddefnyddio'n
helaeth am "wasp" hefyd.
Mae arna i angen gwahaniaethu rhwng wasps, bees a bumble-bees.
Hyd y gwela i, "cachgi bwm" yw'r unig air pendant sy'n cael ei ddefnyddio am
"bumble-bee" - mae hen drafodaeth ar maes-e a chwestiwn sydyn ar Facebook
bore 'ma yn awgrymu bod tipyn o ddryswch yn y gogledd etc - sy'n rhyfedd o
olygu ei fod yn greadur mor gyffredin!
Diolch
Siān
|