Prynhawn da,
Rwy'n cyfieithu taflen wybodaeth, ac mae'n sôn bod gwybodaeth bellach ar gael ar wefan Brydeinig uniaith Saesneg. Mae'n dweud wrth y darllenydd yr union ddolenni i'w dilyn, ac wrth gwrs, mae'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig. A ddylwn i adael y dolenni hyn yn Saesneg, neu eu cyfieithu i'r Gymraeg?
Diolch ymlaen llaw am eich cyngor.
Meinir
|