O'n i wedi cymryd bod angen treiglo, e.e. metawybyddiaeth a metaddadansoddi (statws 1 ar Term Cymru), ond 'metadata' sy ar Term CYmru (er taw status 5 sydd gan y term hwnnw).
Ydw i'n colli rhywbeth gramadegol sylfaenol fan hyn? Sori os ydw i! Ife achos taw gair Ladin yw data?
Fi'n sylwi taw'r arferiad yw treiglo a'r ol 'tele' (e.e. telefeddygaeth, teleofal).
Diolch!
Emily
|