Mae'n ddrwg gennyf nad ydw i wedi diolch i Delyth, ac felly i Ros, am eu
hateb cyn hyn. 'Roeddwn i'n dal i fethu deall beth i'w wneud, ac o hyd
yn ceisio mewn rhyw fodd gysylltu Cysill a Mozilla. Erbyn hyn 'rwyf
wedi sylweddoli bod angen AGOR Cysill cyn defnyddio'r fysell boeth - ac
mae byd newydd yn agor o'm blaen!
Llawer o ddiolch,
Ann
On 05/01/2015 09:43, Delyth Prys wrote:
> Fel mae'n digwydd, Rhos y gŵr sydd wedi cyfieithu Firefox a Thunderbird i'r Gymraeg. Danfonais drafodaeth y Cylch ymlaen ato, a dyma'i ateb isod.
>
> Delyth
>
> Mae 'na ddau gwestiwn yn codi yn fan hyn - y defnydd o CySill gyda
> Thunderbird a chyfieithiad Cymraeg o Thunderbird.
>
> CySill a Thunderbird - mae modd gwirio negeseuon yn Thunderbird drwy
> ddefnyddio'r fysell boeth.
>
> Fersiwn Cymraeg o Thunderbird - mi fuom ni'n darparu fersiwn hynafol o
> Thunderbird ar un cyfnod ond aeth y gofynion technegol yn drech na ni.
> Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â Mozilla i drefnu'r cyfieithiad drwyddyn
> nhw ac rwy'n disgwyl i bethau symud yn eu blaen. Mae'r cyfieithiadau o
> Thunderbird a Lightning (y rhaglen calendr) wedi eu cwblhau ac yn
> disgwyl eu cyhoeddi.
>
> Rhoslyn Prys
> Meddal.com
>
> -----Neges Wreiddiol/Original Message-----
> Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint Lovgreen
> Anfonwyd: 02 January 2015 15:02
> At: [log in to unmask]
> Pwnc: Re: Cyfieithu Mozilla Thunderbird
>
> Mae'n biti bod Outlook wedi mynd, o'n i'n gwneud yn iawn efo hwnna.
> Windows Mail yn wael iawn. Ac mae pob rhaglen ebost erbyn heddiw hyd y
> gwela i yn cymryd eich bod ar-lein drwy'r amser sy'n ei gwneud yn anos
> gwneud pethau ar eich cyfrifiadur 'lleol' - mae pob dim yn y "cwmwl". Grrr!
>
> Geraint
>
> On 02/01/2015 12:03, Ann Corkett wrote:
>> Cwestiwn arall - symlach, gobeithio - ynghylch Thunderbird.
>> Pan ddefnyddiwn i Outlook, 'roeddwn wedi cysylltu Cysill a'r rhaglen a
>> medru gwirio negeseuon 'in situ'. Erbyn hyn, rhaid eu trosglwyddo i
>> Word, sy'n rhwystr os bydd rhywun yn ddiog. Oes modd trefnu gwirio
>> negeseuon yn Thunderbird?
>>
>> Diolch,
>>
>> Ann
>> On 02/01/2015 09:55, Geraint Lovgreen wrote:
>>> Helo bawb a Blwyddyn Newydd Dda!
>>>
>>> Dwi wedi troi at raglen e-bost Mozilla Thunderbird ar ôl cael
>>> problemau gyda fy hen raglen. Mae'r rhaglen ar gael mewn sawl iaith
>>> yn cynnwys Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban a Basgeg ond nid yn Gymraeg,
>>> sydd yn ddiffyg anarferol y dyddiau hyn. Mae 'na fodd i gyfieithu'r
>>> rhaglen drwy ddilyn dolen 'localisation' ond mae'r holl broses yn
>>> edrych braidd yn annealladwy i mi. Petai rhywun sy'n dallt
>>> cyfrifiaduron yn gallu cychwyn y broses mi fyddwn yn fodlon cyfrannu
>>> at y gwaith cyfieithu. Mae Mozilla Firefox gen i ac mae hwnnw'n
>>> Gymraeg, felly pam ddim Thunderbird.
>>>
>>> Geraint
>>>
>>>
>>> -----
>>> No virus found in this message.
>>> Checked by AVG - www.avg.com
>>> Version: 2015.0.5577 / Virus Database: 4257/8854 - Release Date:
>>> 01/02/15
>>>
>
> Rhif Elusen Gofrestredig 1141565 - Registered Charity No. 1141565
>
> Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilewch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio a defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor.
>
> This email and any attachments may contain confidential material and is solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this email in error, please notify the sender immediately and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or disclose any information contained in this email. Any views or opinions are solely those of the sender and do not necessarily represent those of Bangor University. Bangor University does not guarantee that this email or any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless expressly stated in the body of the text of the email, this email is not intended to form a binding contract - a list of authorised signatories is available from the Bangor University Finance Office.
>
>
>
> -----
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2015.0.5577 / Virus Database: 4257/8871 - Release Date: 01/05/15
|