Diolch i bawb am eu help.
Mae'n ymddangos nawr bod camgymeriad yn y Saesneg. Mae'n sôn am y Ministry of Works yn gwneud rhywbeth ym 1914 ond, yn ôl a welaf i, chafodd y Weinyddiaeth honno ddim o'i sefydlu tan 1943. Yr "Office of Works" oedd hi cyn hynny. Os felly - "y Swyddfa Weithfeydd"?
Diolch eto
Siân
On 2015 Ion 9, at 12:37 PM, Claire Richards wrote:
> Wnes i feddwl hynny fy hun - a allai rhywun feddwl bod "y Weinyddiaeth Waith" yn rhagflaenydd i'r Adran Gwaith a Phensiynau.
>
> Ond fel dywedais i, dim ond 'gwaith' am 'works' y gallwn ei weld yn y ffynonellau arferol.
>
> Claire
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock
> Sent: 09 January 2015 12:01
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Ministry of Works
>
> Cwestiwn ar ran Berwyn:
>
> "Petai rhyw Weinidog yn y dyfodol yn creu a 'Ministry for Work, unlike the old Ministry of Works', sut fyddet ti'n cyfieithu hwn'na?"
>
> Dim ond gofyn...
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards
> Sent: 09 Ionawr 2015 08:56
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Ministry of Works
>
> Yn �l Geiriadur y Gyfraith, 'Deddf Gwaith ac Adeiladau Cyhoeddus 1874" yw'r "Works and Public Buildings Act 1874". A dim ond 'gwaith' a geir am 'works' gyda'r ystyr hon yng Ngeiriadur yr Academi, hyd y gwelaf.
>
> Mae TermCymru'r rhoi 'Y Weinyddiaeth Gyfiawnder' am y 'Ministry of Justice', gan awgrymu bod angen treiglo.
>
> Byddai hynny'n awgrymu 'Y Weinyddiaeth Waith'.
>
> Claire
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 08 January 2015 21:05
> To: [log in to unmask]
> Subject: Ministry of Works
>
> Oes enw swyddogol am y Ministry of Works?
>
> y Weinyddiaeth Waith, y Weinyddiaeth Weithiau, y Weinyddiaeth Gweithiau, y Weinyddiaeth Weithfeydd - i gyd i'w gweld ar y we!
>
> Diolch
>
> Si�n
|