Yn ôl Geiriadur y Gyfraith, 'Deddf Gwaith ac Adeiladau Cyhoeddus 1874" yw'r "Works and Public Buildings Act 1874". A dim ond 'gwaith' a geir am 'works' gyda'r ystyr hon yng Ngeiriadur yr Academi, hyd y gwelaf.
Mae TermCymru'r rhoi 'Y Weinyddiaeth Gyfiawnder' am y 'Ministry of Justice', gan awgrymu bod angen treiglo.
Byddai hynny'n awgrymu 'Y Weinyddiaeth Waith'.
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 08 January 2015 21:05
To: [log in to unmask]
Subject: Ministry of Works
Oes enw swyddogol am y Ministry of Works?
y Weinyddiaeth Waith, y Weinyddiaeth Weithiau, y Weinyddiaeth Gweithiau, y Weinyddiaeth Weithfeydd - i gyd i'w gweld ar y we!
Diolch
Siân
|