Chware teg, dwi efo'r pentrefwyr ar hyn. O ran cysondeb byddai'n rhaid
ysgrifennu Caer-dydd hefyd.
Geraint (o gael fy ffordd fy hun faswn i'n dal i sgwennu Penygroes yn
hytrach na Phen-y-groes)
On 22/01/2015 00:38, Dafydd Lewis wrote:
> Mae enwau lleoedd yn fwy dealladwy hefo cysylltnod ynddyn nhw. O na, tudyn nhw ddim...
>
> http://www.telegraph.co.uk/news/uknews/wales/11346881/Villagers-dash-hopes-of-a-helpful-hyphen-to-tackle-Welsh-tongue-twisters.html
>
> Nid oes rheol ar enwau tai: http://farm1.static.flickr.com/49/106434355_946c7bd9ea_m.jpg
>
> Dafydd
>
>
> On Wed, 21 Jan 2015 18:31:12 +0000, Sian Roberts <[log in to unmask]> wrote:
>
>> A dyna ateb fy nghwestiwn - yn rhannol beth bynnag.
>>
>> Siân
>> On 2015 Ion 21, at 6:18 PM, Carolyn Iorwerth wrote:
>>
>>> A fi. Meddwl am yr enw ar lechen ydw i a gweld y dashys yn or ffyslyd
>>>
>>>
>>>
>>> On 21 Jan 2015, at 17:23, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:
>>>
>>>> Sôn am enwau lleoedd yn benodol mae'r llyfr Enwau Lleoedd, nid enwau tai (mae'r cliw yn yr enw!).
>>>>
>>>> Mae Pant y D^wr yn fwy addas ar gyfer enw t^y, faswn i'n meddwl.
>>>>
>>>> Geraint
>>>>
>>>> On 21/01/2015 16:46, Felicity Roberts [afr] wrote:
>>>>> Ydy. Dw i’n meddwl mai dyna fyddai’r llyfr Enwau Lleoedd ( A Gazeteer of Welsh Place Names ) yn ei ddweud. Pan fo’r ail elfen yn enw cyffredin yna llythyren fach sydd yn briodol meddir yno. Argymhellir y patrwm gyda chysylltnodau yno hefyd gyda’r fannod yn y canol, a’r elfen olaf yn unsill.
>>>>> Felicity
>>>>>
>>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
>>>>> Sent: Wednesday, January 21, 2015 4:30 PM
>>>>> To: [log in to unmask]
>>>>> Subject: Re: Enw ty
>>>>>
>>>>> Ond mae Pant-y-dŵr yn bosibilrwydd hefyd, ydi?
>>>>>
>>>>> Siân
>>>>> On 2015 Ion 21, at 4:10 PM, Carolyn Iorwerth wrote:
>>>>>
>>>>>
>>>>> Byddwn i’n tueddu i roi Pant y Dŵr.
>>>>> Carolyn
>>>>>
>>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhidian Evans
>>>>> Sent: 21 Ionawr 2015 16:03
>>>>> To: [log in to unmask]
>>>>> Subject: Enw ty
>>>>>
>>>>> Prynhawn da
>>>>>
>>>>> Cwestiwn nad yw’n ymwneud â chyfieithu’n uniongyrchol ond wedi cael cais am gyngor gan deulu sydd yn awyddus i enwi eu cartref newydd yn “Pant y dwr”. Sut fyddech chi’n ysgrifennu’r enw? Ai fel Pant y dwr, Pantydwr neu Pant y Dwr? Tueddwn i’w ysgrifennu ar wahan ond beth yw’r arferiad o ran roi ‘D’ fawr i dwr fel yn yr enghraifft yma?
>>>>>
>>>>> Diolch yn fawr,
>>>>>
>>>>> Rhidian
>>>>>
>>>>>
>>>>>
>>>>> Rhidian Evans
>>>>> Prif Swyddog
>>>>> Menter Iaith Sir Benfro,
>>>>> Ty'r Ysgol, Ysgol y Preseli, Crymych, Sir Benfro, SA41 3QH. Ffôn: 01239 831129
>>>>> Canolfan Ddysgu Gymunedol, Heol Dyfed, Abergwaun, SA65 9DT. Ffôn: 01348 873700
>>>>> E-bost: [log in to unmask]
>>>>> Symudol: 07805 151291
>>>>>
>>>>>
>>
|