Mae gen i ganiatad Berwyn i drosglwyddo ei sylwadau:
"Wrth ystyried teitlau fel hyn lle mae rhywrai o blaid ddefnyddio ffurf
unigol yn Gymraeg pan fo'r teitl Saesneg yn cyfeirio at y lluosog, bydda
i bob amser yn gofyn 'Beth petai rhywun yn creu teitl sy'n defnyddio'r
ffurf unigol yn Saesneg?' Dyna oedd wrth wraidd fy nghwestiwn i.
"Gan fod gwahaniaeth rhwng 'gwaith' a 'gweithfeydd', rwy'n credu ei bod
hi'n bwysig i deitl Cymraeg adlewyrchu'r gwahaniaeth hwnnw os nad oes
rhesymau pendant iawn dros ei anwybyddu. "
Ann
On 09/01/2015 12:54, Ann Corkett wrote:
> Dyna beth oeddwn i'n ei feddwl hefyd - Cyflogaeth. Beth yn union y
> mae cwestiwn Berwyn yn anelu ato?
> Ann
> On 09/01/2015 12:41, Mary Jones wrote:
>> Onid 'employment' fyddai ystyr 'work' mewn enghraifft felly?
>> Mary
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
>> David Bullock
>> Sent: 09 January 2015 12:01
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: Ministry of Works
>>
>> Cwestiwn ar ran Berwyn:
>>
>> "Petai rhyw Weinidog yn y dyfodol yn creu a 'Ministry for Work,
>> unlike the old Ministry of Works', sut fyddet ti'n cyfieithu hwn'na?"
>>
>> Dim ond gofyn...
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
>> Claire Richards
>>
>> Sent: 09 Ionawr 2015 08:56
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: Ministry of Works
>>
>> Yn �l Geiriadur y Gyfraith, 'Deddf Gwaith ac Adeiladau Cyhoeddus
>> 1874" yw'r "Works and Public Buildings Act 1874". A dim ond 'gwaith'
>> a geir am 'works' gyda'r ystyr hon yng Ngeiriadur yr Academi, hyd y
>> gwelaf.
>>
>> Mae TermCymru'r rhoi 'Y Weinyddiaeth Gyfiawnder' am y 'Ministry of
>> Justice', gan awgrymu bod angen treiglo.
>>
>> Byddai hynny'n awgrymu 'Y Weinyddiaeth Waith'.
>>
>> Claire
>>
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
>> Sian Roberts
>> Sent: 08 January 2015 21:05
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Ministry of Works
>>
>> Oes enw swyddogol am y Ministry of Works?
>>
>> y Weinyddiaeth Waith, y Weinyddiaeth Weithiau, y Weinyddiaeth
>> Gweithiau, y Weinyddiaeth Weithfeydd - i gyd i'w gweld ar y we!
>>
>> Diolch
>>
>> Si�n
>>
>>
>> -----
>> No virus found in this message.
>> Checked by AVG - www.avg.com
>> Version: 2015.0.5577 / Virus Database: 4257/8896 - Release Date:
>> 01/09/15
>>
>>
>>
>
>
> -----
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2015.0.5577 / Virus Database: 4257/8896 - Release Date: 01/09/15
>
>
|