Mae geni ryw gof o gwmni (gneud iogwrt efallai?) yn hysbysebu "pot o hapus"
? neu ydw i wedi dychmygu'r peth?? Eitha hoffi hwnna os oedd yn bodoli.
Dwynwen
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 15 December 2014 11:22
To: [log in to unmask]
Subject: cyfieithu ymadroddion od
Rwy'n llawn cydymdeimlad â'r cyfieithydd a gafodd y dasg o gyfieithu slogan
rightmove "find your happy".
Roeddwn wedi clywed llais Aled Samuel yn dweud "canfod eich hapus" ac yn
methu deall beth roedd yn ceisio'i gyfleu ond heb weld y geiriau Saesneg ar
y sgrin.
Wedi holi ar twitter, mae'n debyg bod y cwmni am ddefnyddio geiriad od i
dynnu sylw at eu hysbyseb ac ennyn trafodaeth a'u bod am ddefnyddio "happy"
i gyfleu "y lle yr ydych yn hapus ynddo".
Mae'n debyg bod pobl wedi cwyno am y Saesneg a'r Gymraeg a bod trafodaeth
wedi'i chynnal ar Taro'r Post!
Y cwestiwn yw, sut mae cyfieithwyr i fod i ymateb pan fydd y testun
gwreiddiol yn fwriadol "od"?
Mae'n rhaid i'r cyfieithiad fod yn "od" hefyd, am wn i.
Yn yr achos hwn, mae'n siwr bod rhywun wedi cael miloedd o bunnau am
benderfynu y byddai'n syniad da defnyddio "hapus" fel enw i gyfleu "y man
delfrydol i chi"/"y man lle byddwch yn hapus" felly mae'n siwr y byddai'n
well cadw hynny yn y Gymraeg.
Y cwestiwn wedyn yw, a ddylid cyfieithu'n llythrennol - Canfod eich hapus
- posibiliadau eraill fyddai Canfyddwch eich hapus / Ffeindiwch eich hapus /
Chwiliwch am eich hapus / Dewch o hyd i'ch hapus - ynteu aralleirio? Mae hwn
yn anodd am fod y math yma o orchmynnol a'r gair "find" yn anodd eu
cyfieithu!
Gobeithio wir nad ydi rightmove yn dechrau ffasiwn!
Siân
|