O'n i'n mynd i ddeud mai pethau Americanaidd ydi'r rhein - Black Friday a
Cyber Monday - a fyswn i'n eu gadael yn yr iaith wreiddiol. Dydi'r cysyniad
ddim yn bodoli yng Nghymru. Mae rhai yn sôn hefyd bod y term 'Black Friday'
yn deillio o oes gwerthu caethweision.
-----Original Message-----
From: Dafydd Tomos
Sent: Thursday, November 27, 2014 4:27 PM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cyber Monday
On Nov 27, 2014, Meinir Thomas wrote:
> Prynhawn da,
>
> Oes unrhyw un wedi cyfieithu'r uchod? 'Seiber Ddydd Llun' oedd ar fy
> meddwl i, ond heb weld unrhyw enghreifftiau. Wedi gweld un enghraifft o
> 'Llun y Seiber'.
Newydd gael trafodaeth yn y swyddfa am hyn. Rwtsh Americanaidd yw e
(a mae hyn yn dod gan Americanes) ar gyfer marchnata siopa arline
yn y diwrnodau ar ol Diolchgarwch. Black Friday yw hi fory.
Dwi ddim yn siwr os oes yna unrhyw gyfieithiad call i rywbeth sydd
ddim yn digwydd yng Nghymru (er fod rhai yn ceisio'u gorau glas
i efelychu'r iancs).
Fasen i'n ei alw yn Ddydd Llun Lloerig.
-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2015.0.5577 / Virus Database: 4223/8639 - Release Date: 11/27/14
|