Adroddiad gan ddarparwr ynni ydy'r cyd-destun. Dwi wedi gweld enghraifft o adroddiad rhanddeiliaid gan y Comisiwn Coedwigaeth, ond mae hynny yn awgrymu i mi mai adroddiad am y rhanddeiliaid sydd dan sylw, ac nid dyna sydd dan sylw. Yn hytrach, mae'r cwmni wedi ysgrifennu adroddiad y gall rhanddeiliaid (cwsmeriaid, isgontractwyr ac ati) ei ddarllen i gael gwybodaeth am weithgareddau'r cwmni yn ystod y flwyddyn ariannol. Fyddai 'adroddiad blynyddol i randdeiliaid' yn gwneud synnwyr.
Sent from my BlackBerry® wireless device
|