Diolch, Geriant.
Wedi rhagor o chwilio, rwy'n gweld mai cronfa ddŵr yn bwydo gwaith haearn Blaenafon oedd y llyn, ond dwi ddim wedi gweld tystiolaeth o enw'r ffordd sy'n arwain ato.
Serch hynny, dwi wedi defnyddio'r Ffordd Goch: enw addas gobeithio, o feddwl am liw wynebau'r beicwyr ar y top
David
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 29 Hydref 2014 13:19
To: [log in to unmask]
Subject: Re: The Tumble
Os mai ar ben y ddringfa y mae Llyn Pen-ffordd-goch, efallai mai'r Ffordd Goch ydi'r ddringfa ei hun?
Geraint
-----Original Message-----
From: David Bullock
Sent: Wednesday, October 29, 2014 1:14 PM
To: [log in to unmask]
Subject: The Tumble
Enw ar ddringfa sy'n adnabyddus i feicwyr, yn ardal y Fenni, yw hwn. Dim ond 'The Tumble' sydd ar fy map OS i, ond mae'r ddringfa yn dod i ben wrth ochr llyn bach o'r enw Pen-ffordd-goch Pond.
Mae yna ras ryngwladol i feicwyr proffesiynol ac amatur yn cael ei threfnu fis Mehefin nesa sy'n defnyddio'r ddringfa yma. Yn lle defnyddio 'The Tumble' neu 'Y Tymbl', fyddwn i'n mynd yn rhy bell pe bawn i'n mentro defnyddio 'Pen-ffordd-goch' yn enw Cymraeg iddi ar wefan Gymraeg y ras?
Neu, yn well byth oes gan unrhyw un dystiolaeth o enw Cymraeg gwreiddiol?
-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2015.0.5315 / Virus Database: 4189/8469 - Release Date: 10/28/14
|