Does dim llawer o enghreifftiau, ond mae 'na 'patient assistants' yn bodoli. Mae'n siŵr mai dyma pam mae'r term 'ward hostess' wedi cael ei fathu.
Erbyn meddwl, onid yw 'ward hostess' yn secsist? Ydi dynion ddim yn cael gwneud cais am y swydd?
Byddai 'gwestywr / gwesteiwr' a) yn llai secsist a b) yn haws ei ddweud.
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Huw Tegid
Sent: 10 October 2014 16:04
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Ward hostess
Heb anghofio am rôl 'Prif Weinyddes Nyrsio' (Charge nurse/sister), wrth gwrs, a'r perygl i ni gael Chief/Lead Ward hostess ryw dro, efallai.
Oes 'na bosibiliadau efo rhywbeth fel "Cynorthwyydd cleifion", dwch? Dim ond syniad.
Cofion gorau,
Huw
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of SIAN ROBERTS
Sent: 10 October 2014 15:44
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Ward hostess
Problem fach, efallai - mae "gweinyddes" yn cael ei ddefnyddio am "nyrs". Dim yn aml, erbyn hyn, chwaith.
Sian
------------------------------
On Fri, Oct 10, 2014 3:05 PM BST Sioned Graham-Cameron wrote:
>Roeddwn inna wrthi'n gwglo rwan, a dyna welais i hefyd. Os nad yw 'gwesteiwraig' wedi ennill ei blwyf yn ehangach, dwi'n meddwl y defnyddiaf 'gweinyddes'.
>
>Diolch, bawb.
>
>Sioned
>
>
>On 10 Oct 2014, at 14:54, Claire Richards wrote:
>
>> Dwy enghraifft dwi’n gallu eu gweld o ‘gwesteiwraig’ ar y we yn y cyswllt hwn.
>>
>> Byddwn i’n ei chael yn anodd iawn ynganu’r gair, rhaid cyfaddef. Mae’n dipyn o lond ceg. Byddai ‘gweinyddes’ yn llawer haws.
>>
>> Claire
>>
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sioned Graham-Cameron
>> Sent: 10 October 2014 14:44
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: Ward hostess
>>
>> Ah - dyna sy'n cael ei ddefnyddio gan y GIG felly; efallai y dylwn ddefnyddio hynny felly, er rhaid i mi gyfaddef nad ydw i'n hoffi'r gair rhyw lawer (wn i ddim pam!).
>>
>> Roeddwn wedi gweld 'gwesteiwraig' am hostess yn gyffredinol, ond mae 'gweinyddes' yn cyfleu'r peth y well yn dydi, yng nghyd-destun ward ysbyty...
>>
>> Diolch, Andrea.
>>
>> Sioned
>>
>> On 10 Oct 2014, at 14:32, Andrea Davies wrote:
>>
>>
>> Beth am wneud rhywbeth efo “gwesteiwraig”? “Gwesteiwraig y ward”, ayb?.....
>>
>>
>> <image001.jpg>
>>
>>
>> (http://www.google.co.uk/url?sa=t&rct=j&q=&esrc=s&source=web&cd=2&ved=0CCoQFjAB&url=http%3A%2F%2Fwww.npsa.nhs.uk%2FEasysiteWeb%2Fgetresource.axd%3FAssetID%3D18744%26type%3DFull%26servicetype%3DAttachment&ei=4d43VP6pA87kaK7-gYgC&usg=AFQjCNFcwT9VlAyNDTqSnT0kDL5-D-dH9g&sig2=ny2hZIYsMPKusY2EzpMIZA)
>>
>>
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sioned Graham-Cameron
>> Sent: 10 October 2014 14:16
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Ward hostess
>>
>> Pnawn da bawb
>>
>> Y cyd-destun yw iechyd / wardiau ysbyty. Disgrifiad o'r swydd dan sylw oddi ar y we:
>>
>> What does your job entail?: Being there for the patients. I serve the tea, coffee and meals to the patients. I help patients fill in their menu if they need it and collect the meals from the kitchen, ensuring I have the right amount meals and chasing up any missing meals. I also ensure that all the patients’ water jugs are kept refreshed.
>>
>>
>>
>> Fedra i ddim meddwl am unrhyw beth addas. Rwyf wedi chwilio ar wefannau dau Fwrdd Iechyd ond heb gael hyd i unrhyw derm swyddogol.
>>
>>
>>
>> Unrhyw syniad gan unrhyw un?
>>
>>
>>
>> Diolch ymlaen llaw
>> Sioned
>>
>>
>>
>
-------------------------------------------------------------
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe'i bwriedir ar gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth freintiedig. Os yw wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad ni ellwch ei gopio, ei ddosbarthu na'i ddangos i unrhyw un arall a dylech gysylltu a'r anfonwr ar unwaith.
Mae unrhyw gynnwys nad yw'n ymwneud a busnes swyddogol y corff sy'n anfon yr e-bost yn bersonol i'r awdur.
-------------------------------------------------------------
This email and any attachments are confidential and intended for the named recipient only. The content may contain privileged information. If it has reached you by mistake, you should not copy, distribute or show the content to anyone but should contact the sender at once.
Any content that is not pertinent to the official business of the organisation is personal to the author.
-------------------------------------------------------------
Arbedwch bapur, ynni ac arian - Peidiwch argraffu'r neges yma oni bai ei bod yn hollol angenrheidiol.
Save paper, energy and money - Do not print this message unless it is absolutely necessary.
|