Yn ôl ei phrospectws mae gan Brifysgol Fetropolitan Abertawe "llawr
sbringog". A fyddai "lled-sbringog" yn bosibilrwydd?
Efallai byddai "(lled)ystwyth" yn opsiwn arall
2014-10-24 9:45 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
> Hwnnw'n swnio'n addawol - achos mae 'na wahaniaeth rhwng "llawr sbring" a "llawr sbrings".
> Tybed beth fyddai "semi-sprung floor" felly?
> A neb i ddweud "llawr sbr"!
>
> Siân
>
>
> On 2014 Hyd 24, at 9:16 AM, Neil Shadrach wrote:
>
>> Nifer o enghreifftiau o "llawr sbring" ar wefannau cyrff addysg,
>> hamdden a llywodraeth
>>
>> 2014-10-23 23:05 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
>>> Dim ei fod yn fater o'r pwys mwyaf ond …
>>> Tyswn i'n gweld "llawr crog" swn i'n ei ddeall ac yn ei gyfieithu fel
>>> "suspended floor" - ond efallai mai ar wely o stwff meddal y mae. Ac mae
>>> "suspended floor" yn fath o lawr sy'n wahanol i "sprung floor" - beth fydden
>>> ni'n galw hwnnw?
>>> Mi ddes i ar draws "semi-sprung dance floor" ryw dro.
>>> Mewn darn cyffredinol ar gyfer y cyhoedd, fe ddywedais i "llawr dawns
>>> arbennig" - gair bach handi yw "arbennig" - ac mewn darn ar gyfer pobl allai
>>> fod yn dymuno llogi'r ystafell, mi ddywedais "llawr dawns 'semi-sprung'"
>>>
>>> Ond swn i ddim yn mynd i ffraeo am y peth!
>>>
>>> Siân
>>>
>>>
>>> On 2014 Hyd 23, at 7:05 PM, anna gruffydd wrote:
>>>
>>> Diolch - mi ddyla fod yn ddigon amlwg i ddawnsiwr sut fath o lawr sy dan
>>> sylw, waeth sut y'i gwnaed. Dyna sy wedi mynd a hi bellach beth bynnag.
>>>
>>> Anna
>>>
>>> Ye who opt for cut'n'paste
>>> Tread with care and not in haste!
>>>
>>> 2014-10-23 16:51 GMT+02:00 Geraint Lovgreen
>>> <[log in to unmask]>:
>>>>
>>>> Dwi’n meddwl bod ‘llawr crog’ yn derm cyffredinol digon derbyniol am y
>>>> lloriau hyn heb ystyried manylion eu gwneuthuriad.
>>>>
>>>> From: Sian Roberts
>>>> Sent: Thursday, October 23, 2014 3:16 PM
>>>> To: [log in to unmask]
>>>> Subject: Re: sprung floor
>>>>
>>>> Ie - ond dydyn nhw ddim bob amser yn lloriau crog, dw i ddim yn meddwl -
>>>> fel mae'n dweud yn y diffiniad. A dydi hi ddim yn glir i mi o wefan
>>>> Harlequin ydi hwn yn un crog ai peidio.
>>>>
>>>> Fyse "llawr dawns pren arbennig 'Liberty' gan Harlequin" yn gwneud y tro?
>>>>
>>>> Siân
>>>>
>>>> On 2014 Hyd 23, at 2:30 PM, Sioned Graham-Cameron wrote:
>>>>
>>>> O roi "llawr crog dawnsio" yn Google, mae nifer o enghreifftiau i'w gweld,
>>>> ond dydw i ddim yn arbenigwr!
>>>>
>>>> Sioned
>>>>
>>>>
>>>> On 23 Oct 2014, at 14:17, anna gruffydd wrote:
>>>>
>>>> Cyd-destun: The Ballet Cymru dance studio is fitted with a 196 square
>>>> metre (14m x 14m) Harlequin ‘Liberty’ sprung wooden dance floor
>>>>
>>>> Diffiniad Wiki:- A sprung floor is a floor that absorbs shocks, giving it
>>>> a softer feel. Such floors are considered the best available for dance and
>>>> indoor sports and physical education. They enhance performance and greatly
>>>> reduce injuries. Modern sprung floors are supported by foam backing or
>>>> rubber feet, while traditional floors provide their spring through bending
>>>> woven wooden battens.
>>>>
>>>> O blith y cynigion yn GyrA dwn i ddim prun sydd fwyaf addas. Diolch
>>>>
>>>> Anna
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> No virus found in this message.
>>>> Checked by AVG - www.avg.com
>>>> Version: 2015.0.5315 / Virus Database: 4181/8439 - Release Date: 10/23/14
>>>
>>>
>>>
|