O chwilio am Ewloe + castle in the woods heb ddyfynodau cefais:
http://www.castlewales.com/ewloe2.html
"... documents dating to 1311 which state that Llywelyn ap Gruffydd erected
a 'castle in the corner of the wood' in 1257 (Renn and Avent, 1995)."
Buaswn i'n meddwl bod y dogfennau gwreiddiol yn Saesneg, er ni ddywedir
hynny.
Felly chwiliais am "castell yng nghornel y goedwig" a ches hyn:
http://www.siryfflint.gov.uk/cy/PDFFiles/Countryside--Coast/Discover-Wepre-P
ark-Booklet.pdf
"Ddwy flynedd yn ddiweddarach, adeiladodd Llewelyn “gastell yng nghornel y
goedwig” i herfeiddio'r frenhiniaeth Seisnig."
Ond mae'n siwr mai'r cyfan 'rwyf wedi'i wneud ydy taro ar gyfieithiad
rhywun arall!
Wedyn, chwiliais am 'Ewlo + "castell yng nghornel"', ond heb dod o hyd i
unrhywbeth arall.
Nos da,
Ann
Original email:
-----------------
From: Sian Roberts [log in to unmask]
Date: Sun, 5 Oct 2014 23:03:25 +0100
To: [log in to unmask]
Subject: Castle in the Woods
Rwy'n gallu canfod sawl cyfeiriad at Gastell Ewlo fel "the castle in the
woods" ond dim byd yn dod i'r golwg wrth chwilio am "castell yn y coed",
"castell yn y wig" na "castell yn y goedwig". Oes rhywun yn gwybod a oes
ymadrodd Cymraeg?
Diolch
Siân
--------------------------------------------------------------------
myhosting.com - Premium Microsoft Windows and Linux web and application
hosting - http://link.myhosting.com/myhosting
|