Rwyf ar goll rwan; cywiro proflenni ydych chi, felly, yn hytrach na
chyfieithu o'r Saesneg?
Ann
On 10/10/2014 23:29, SIAN ROBERTS wrote:
>
> Diolch! Dyna wnaf i felly. Wna i Wglo'r sillafiad Cymraeg sydd yn y testun. Os nad yw' n cynnig dim, fe wna i ddyfalu beth yw'r sillafiad Saesneg, Gwglo hwnne a gweld a yw'r Gymraeg yn ei gyfleu. Bosib bod llais yn dweud yr enwau ar y we yn rhywle.
> Mae'r ffaith mai Tsaicofsci sy yn y proflenni yn gwneud i mi amau'r gweddill.
> Diolch yn fawr
>
>
> ------------------------------
> On Fri, Oct 10, 2014 10:36 PM BST [log in to unmask] wrote:
>
>> Dyma bolisi Bruce ynghylch geiriau o ieithoedd tramor:
>>
>> os oedd y gair yn yr wyddor Ladin yn wreiddiol, dylid cymryd bod siaradwyr
>> cynhenid a hawl i ddewis sillafiad eu hiaith eu hunain;
>> oes oedd y gair mewn iaith a^ gwyddor arall, e.e. Groeg ac ieithoedd megis
>> Rwsieg, sy’n defnyddio’r wyddor Gyrilig, ac Arabeg a dim ond wedi’i
>> drawslythrennu i’r wyddor Ladin, yna mae gan y Cymro gymaint o hawl i’w
>> drawslythrennu yn ol synau’r Gymraeg ag sydd gan y Sais i’w drawslythrennu
>> yn ol synau’r Saesneg.
>>
>> Mae’n fwy cymhleth na hynny o ran rhai ieithoedd, megis Mandarin, Siapaneg
>> ac ieithoedd Asiaidd eraill (‘rwy’n bwriadu stopio yn fan hyn, er bod Bruce
>> yn ymddangos yn barod i arddweud darlith ar y pwnc).
>>
>> Awgryma Bruce “Tsiaicofsci”, a gwelaf mai hwnnw a ddefnyddir yn achos yr
>> opera 'ONIEGIN – Gaeaf Gobeithion’ sydd wedi bod ar daith yn ddiweddar.
>>
>> Cofion,
>>
>> Ann
>>
>>
>> Original email:
>> -----------------
>> From: Sian Roberts [log in to unmask]
>> Date: Fri, 10 Oct 2014 19:50:33 +0100
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Tchaikovsky
>>
>>
>> Helo
>> Dim llyfrau gen i.
>>
>> Beth yw'r polisi ar enwau fel Tchaikovsky?
>>
>> Diolch
>>
>> Sià n
>>
>>
>> --------------------------------------------------------------------
>> mail2web.com - Microsoft Exchange solutions from a leading provider -
>> http://link.mail2web.com/Business/Exchange
>
> -----
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2014.0.4765 / Virus Database: 4040/8361 - Release Date: 10/10/14
>
>
>
|