Plethen y fôr-forwyn ddylai hwnna fod, ie?
Dydi "plethen y forwyn" ddim yn golygu dim byd. Go brin y byddai gan forynion fish-tail plaits!
Y broblem â "plethen y fôr-forwyn" yw nad oes gan fôr-forwynion blethi.
Mae "plethen cynffon y fôr-forwyn" yn mynd braidd yn hir.
Ond mae "plethen cynffon pysgodyn" yn swnio'n ych-a-fi braidd ond mae'r ystyr yn glir!
Dim ateb, sori! Oes 'na eirfa yn y maes?
Siân
On 2014 Medi 19, at 9:39 AM, Melanie Davies wrote:
> Hoffi Plethen y Forwyn. Beth am 'rhes blethi' am cornrows?
>
> Melanie
>
> -----Original Message----- From: Dafydd Timothy
> Sent: Thursday, September 18, 2014 4:49 PM
> To: [log in to unmask]
> Subject: fishtail plait
>
> Henffych chwychwi ferched (a dynion) gwalltiau hir(ion)!
>
> Cyd-destun ydi cwrs Trin gwallt...eto...
>
> Be wnawn ni roi fel 'fishtail plait' yn Gymraeg?
> Mae Plethen y Forwyn i'w glywed yn reit Gymreig, ond ydi 'mermaid plait'
> cweit yr un peth â 'fishtail plait' ydi'r cwestiwn mawr?!
> Neu ydi Plethen Cynffon Sgodyn yn mynd i ddenu'r heidiau(heigiau) i'w
> ganlyn?!
>
> Wedi bod yn Gwglo a dal i fod yn ansicr...
>
> Hefyd dull arall:
> 'cornrow'... fase 'rhes yd' neu 'rhes rawn' yn iawn?
>
> Diolch,
> Dafydd
|