Mae'n anodd iawn gwybod weithiau beth i'w gyfieithu - beth sy'n enw a beth sy'n ddisgrifiad.
Yn bersonol, os nad yw'r cwmni ei hunan yn defnyddio enw Cymraeg, dw i'n tueddu i gadw'r Saesneg - ond dyw'r penderfyniad ddim yn hawdd bob tro.
Fyswn i'n sicr ddim yn dweud "Wrecsam Lager".
Os dweud "Lager Wrecsam" - a fyddai angen "l" fach ar gyfer "lager" am nad dyna enw'r cwmni/cynnyrch?
Un agwedd ar y broblem - cynnyrch o'r enw "Pencader Welshcakes" - beth i'w wneud? Mae sawl gair Cymraeg ar gyfer Welshcakes ond, hyd y gwn i, does dim un ohonyn nhw'n cael ei ddefnyddio ym Mhencader - byddai peryg i bawb ddewis enw gwahanol - neu ddweud "Welshcakes Pencader" sy'n swnio'n wirion braidd!
Mae enwau grwpiau canu yn achosi'r un broblem - ydych chi'n dweud "Pumawd Justin Smith" e.e.?
Siân
On 2014 Medi 22, at 1:32 PM, Geraint Lovgreen wrote:
> Faswn i'n mynd am y trydydd - Lager Wrecsam
>
> -----Original Message----- From: david
> Sent: Monday, September 22, 2014 12:02 PM
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Wrexham Lager
>
> Lagyr Wrecsam oedd ar yr hen ganiau ers talwm.
>
> Cymraeg un ochr a Saesneg ochr arall
>
> On 22/09/2014 11:28, Dafydd Timothy wrote:
>> Bore da, gyd-lwyrymwrthodwyr!
>> Y cyd-destun ydi gŵyl fwyd Hamper Llangollen...
>>
>> Be sa orau :
>> - cadw 'Wrexham Lager' fel ag y mae, gan mai dyna enw'r cwmni?
>> - 'Wrecsam Lager', er mwyn Cymreigio enw'r dre?
>> - 'Lager Wrecsam' i fod yn ramadegol gywir?
>>
>> Dwi'n dueddol o fynd am yr ail ddewis fy hun...ond oedaf nes clywed barn ambell un ohonoch.
>>
>> Btw, nid fi sy'n talu am y rownd nesa ;-)
>>
>> Diolch,
>> Dafydd
>>
>
>
> -----
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2014.0.4765 / Virus Database: 4025/8255 - Release Date: 09/22/14
|