Henffych chwychwi ferched (a dynion) gwalltiau hir(ion)!
Cyd-destun ydi cwrs Trin gwallt...eto...
Be wnawn ni roi fel 'fishtail plait' yn Gymraeg?
Mae Plethen y Forwyn i'w glywed yn reit Gymreig, ond ydi 'mermaid plait'
cweit yr un peth â 'fishtail plait' ydi'r cwestiwn mawr?!
Neu ydi Plethen Cynffon Sgodyn yn mynd i ddenu'r heidiau(heigiau) i'w
ganlyn?!
Wedi bod yn Gwglo a dal i fod yn ansicr...
Hefyd dull arall:
'cornrow'... fase 'rhes yd' neu 'rhes rawn' yn iawn?
Diolch,
Dafydd
|