Syniad da hefyd yw cymharu testunau Cymraeg a Saesneg dogfennau
dwyieithog (boed yn ddeddfau, bwydlenni, canllawiau, papurau arholiad,
contractau, hysbysebion, neu beth bynnag) fel rhyw fath o Garreg Rosetta
electronig. Mae'r darlun yn aml bach yn fwy cymhleth nag a fyddai rhywun
yn ei amau o chwilio'r ffynonellau isod.
Yn iach,
Tim
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 28 August 2014 12:58
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Arfer Da
Nid wyf yn ceisio bod yn bersonol, dim ond yn defnyddio'r cyfle i
bwysleisio rhywbeth sydd wedi fy nharo i - ac eraill, mi wn - sawl tro
Oni ddylen ni rhyw fath o restr dicio yn ein pennau:
Cyn anfon at W-T-C ydw i:
wedi edrych yn Geiriadur yr Academi?
wedi edrych yn TermCymru?
wedi edrych yn Geiriadur Prifysgol Cymru, os bydd hynny'n berthnasol, ac
mewn unrhyw eirfaoedd perthnasol sydd gennyf?
wedi chwilio ar y We am ddiffiniad o'r Saesneg?
wedi disgrifio yn fy neges beth yw cyd-destun y term (h.y. beth yw'r
maes a beth yw'r frawddeg), ei ystyr cyhyd ag y gallaf ei ddarganfod,
unrhyw dermau Cymraeg 'rwyf wedi cael hyd iddynt eisoes a pham nad wyf
yn fodlon arnyn nhw?
wedi dweud a ydw i'n chwilio am awgrymiadau ar gyfer term newydd ynteu
am y term 'safonol' yn y maes?
Mi wn fod pobl weithiau dan bwysau mawr, neu heb fod a'u llyfrau
cyfeiriadol gyda nhw, ac mae eraill yn mynd i ddeall hynny os cant
eglurhad, ond byddai camau fel hyn yn arfer da i anelu ati.
Ann
This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.
I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
|