Peth mawr - bron yn amhosibl - i ofyn ar frys yw hwn, ond tybed a oes
gan neb gopi o gerdd gan fardd o'r enw Rhisiart o'r Hengaer, yn canmol
Rug, a godwyd ar gyfer Robert Salesbury. Mae'n *bosibl* y gallaf gael
copi gan y cwsmerl, ond gofynnaf ar yr egwyddor "gwregys a bresys".
Byddai copi .jpg yn gwneud y tro'n iawn, dim angen teipio'r gerdd, dim
ond imi gael copio'r eirfa a'r ymadroddion wrth gyfieithu aralleiriad
Saesneg, yn lle fy mod i'n ail-ddysfeisio'r olwyn a defnyddio termau modern.
Llawer o ddiolch,
Ann
|