> Gellid defnyddio “car / cerbyd cyfnewid”, efallai, ond ni fyddai’n
> cyfleu’r ffaith mae dros dro y ceir y cerbyd, a hynny heb dalu amdano.
Pam nad "car dros dro" felly? Ym mha gyd-destun fyddai hwnnw'n llai na digon?
Mae'r ysfa i gael term yn Gymraeg am bob un term Saesneg, a hwnnw gyda pob un
mymryn o arlliw o ystyr y Saesneg, yn sicr o arwain at gyfieithu o'r Saesneg
i Saesneg-mewn-geiriau-Cymraeg.
|