Bob blwyddyn 'rwy'n cyfieithu adroddiad ynghylch creaduriaid megis
morfilod a dolffiniaid sy'n dod i'r lan a methu mynd yn ol i'r mor.
Sonnir amdanynt yn "stranding" ac am y nifer y "strandings". Awgrymodd
Bruce "tirio" (sydd yn GyrA mewn cysylltiad a llongau) ar gyfer "to
strand" a "tiriadau" ar gyfer "strandings", a rheiny 'rwyf wedi'u
defnyddio byth ers hynny. Wrth gyfieithu'r adroddiad unwaith eto,
meddyliais y byddai'n beth da gofnodi'r termau yn yr archif rhag ofn y
bydd ar rhywun eu hangen yn y dyfodol.
Ann
|